Rydym yn profi rhai materion technegol a allai eich atal rhag mewngofnodi neu ddefnyddio rhannau o'r wefan. Rydym wrthi'n gweithio ar ddatrys y materion hyn ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi i chi.
Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae cyfle cyffrous wedi codi i benodi Cydlynydd Dysgu Ymarfer Gwaith Cymdeithasol ar gyfer y Gwasanaeth Gweithlu. Rhaid i ymgeiswyr fod yn Weithwyr Cymdeithasol cymwys (CQSW, DipSW, Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol) ac yn Weithwyr Cymdeithasol Cofrestredig a dylent feddu ar gymhwyster pellach mewn asesu/addysgu ymarfer.
Prif ddyletswyddau'r Cydlynydd Dysgu Ymarfer Gwaith Cymdeithasol fydd:
Perfformio rôl strategol allweddol mewn datblygu gwaith cymdeithasol yng Nghonwy.
Cymryd cyfrifoldeb arweiniol dros ddatblygu a chydlynu cyfleoedd dysgu ymarfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
Cefnogi gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso drwy'r Tair Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer, gan gynnwys rhaglen Cydgrynhoi Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus (CPEL).
Cymryd cyfrifoldeb arweiniol dros sicrhau bod gan wasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg Conwy ddigon o Addysgwyr Ymarfer.
Cymryd rhan allweddol o ran Darparu a Chynllunio'r Gweithlu Gwaith Cymdeithasol.
Os hoffech glywed mwy am y swydd wag hon, ymunwch â ni mewn sesiwn wybodaeth ddydd Mercher 15 Mai 2024 o 12:30 -13:30 dros Teams. Gallwch ymuno drwy'r ddolen isod:
Microsoft Teams Need help?
Join the meeting now
Meeting ID: 321 489 490 288
Passcode: McMELm
Cynhelir y cyfweliadau ar 6 a 7 Mehefin 2024
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Mark Rowley, Rheolwr Gweithlu (01492 577764 / Mark.rowley@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr