Cydlynydd Gofal Cymunedol (Ardal Arfon)
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £34,434 - £36,363 a year (S3) y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Elliw Haf Thomas ar ElliwHafThomas@gwynedd.llyw.cymru neu 07767498644.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau.
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 24/08/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
Agwedd hyblyg a masnachol gyda dealltwriaeth glir o bwysigrwydd y cwsmer wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
Yn gallu gweithio y tu allan i oriau swyddfa arferol
Sgiliau rhyngbersonol a chymdeithasol
Agwedd proffesiynol tuag at eich gwaith a gwisg
Gallu gweithio ac ymateb yn effeithiol i sefyllfa o argyfwng
Person egniol a brwdfrydig a ddibynadwy
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
NVQ 4 neu cymhwyster cyfatebol ym maes gofal/rheoli.
Neu yn fodlon gweithio tuag at y cymhwyster mewn amser penodol.
Dymunol
NVQ 3 mewn gofal
ECDL
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad yn y maes gofal
Profiad o ddefnyddio cyfrifiadur
Profiad o oruchwylio a rheoli staff
Dymunol
Profiad o weithio yn y maes gofal cymunedol
Dealltwriaeth o weithdrefnau llywodraeth leol.
Profiad o gydweithio gyda gwahanol asiantaethau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Dealltwriaeth dda o ddeddfwriaaeth berthnasol yn y sector gofal cymdeithasol
Deall egwyddorion Rheoli Gofal
Trwydded yrru ddilys a defnydd o gar
Dealltwriaeth sylfaenol o rhifyddeg
Dealltwriaeth o egwyddorion iechyd a diogelwch
Gallu dangos rheoli amser da.
Sgiliau cyfathrebu da
Sgiliau negydu da
Gallu gweithio dan bwysau
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Arwain tîm o Weithwyr Gofal Cymunedol (Gwasanaeth Gofal Cartref) ar lefel lleol i ddarparu Gwasanaeth Gofal Cartref Cymunedol sydd yn cynorthwyo unigolion i fyw eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain, ac hynny yn y modd maent eisiau ei fyw.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Staff
•Cyfrifoldeb rheolaethol dros y Gweithwyr Gofal Cymunedol (Gwasanaeth Gofal Cartref) yn yr is-ardal.
Cyllid
•Cyfrifoldeb dros fonitro gwariant yn unol a’r disgwyliadau ar lefel lleol (e.e. rheoli’r galw, a sicrhau defnydd priodol o amser staff).
Offer
•Cyfrifoldeb am unrhyw offer personol, ac offer y staff, a ddefnyddir i gyflawni’r swydd. Cyfrifoldeb dros asesu, a lle bo’n briodol, archebu offer addas yn unol â gofynion y cymhwyster BTEC darparu mân offer.
Prif ddyletswyddau
•Cydweithio gyda’r unigolion sy’n derbyn gwasanaeth, eu gofalwyr, a gweithwyr allweddol eraill sydd yn ymwneud a’r gofal, i adnabod ‘Beth sy’n bwysig iddynt’ a dod o hyd i ffyrdd i gwrdd a’u hamcanion personol.
•Grymuso llais yr unigolyn. Cefnogi unigolion i gael cefnogaeth adfocatiaeth pan fo angen, gan sicrhau fod anghenion a dymuniadau’r unigolyn yn cael ei glywed a’i gyfarch.
•Cefnogi unigolion i gymeryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau am ofal a chefnogaeth yn eu bywyd.
•Cydweithio gydag unigolion a’u gofalwyr i gynllunio amrediad o wasanaethau i gwrdd a’u hamcanion personol.
•Asesu oedolion ac anghenion llai cymhleth pan yn berthnasol, gan ymgymryd â chyfrifoldebau cydlynydd achos yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, a dwyn i mewn arbenigedd proffesiynol fel bo’r angen.
•Cyfrifoldeb dros gyfrannu at, a datblygu cynllun gofal ar y cyd, gyda’r unigolyn a’r TAC, gan ystyried y risgiau, wrth ymgymryd â’r rôl cydlynydd achos.
•Cynorthwyo unigolion a’u gofalwyr i gwrdd ag amcanion personol drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
•Ymchwilio a sicrhau dealltwriaeth o adnoddau cymunedol sydd yn bodoli o fewn yr ardal waith er mwyn gallu hwyluso llesiant yr unigolion. Cyfrifoldeb dros rannu’r wybodaeth yma ac annog y Gweithwyr Gofal Cymunedol i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.
•Sefydlu a chynnal cysylltiadau cadarnhaol yn y gymuned (e.e. darparwyr trydydd sector) a gallu cyfeirio unigolion at y gwasanaethau cefnogol ehangach yn ôl yr angen.
•Monitro’r defnydd a’r trefniadau sydd mewn lle o ran cael offer arbenigol i’r cartref er mwyn hybu cyfleoedd i alluogi pobl i fyw mor annibynnol phosibl yn y gymuned/yn eu cartrefi yn unol â’u dymuniadau.
•Gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ym maes iechyd a gofal, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapi, meddygon teulu, partneriaid 3ydd sector, ac unrhyw weithiwr perthnasol arall.
•Adrodd ar ganlyniadau llesiant personol unigolion, a’r ffyrdd y gellir eu cefnogi, mewn sgyrsiau aml ddisgyblaethol, gan eu helpu i helpu eu hunain a defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael.
•Adnabod anghenion nad yw’n bosib eu diwallu, neu rwystrau i gyflawni beth sydd yn bwysig i unigolion. Dadansoddi a chrynhoi’r angen, gyda chyfrifoldeb dros adrodd a thrafod datrysiadau posib ar y cyd hefo’r TAC.
•Goruchwylio staff yn effeithiol yn unol a rheoliadau RISCA, gan gynnwys monitro llwyth gwaith aelodau staff, a chwblhau gwerthusiad blynyddol yn unol â pholisi’r Cyngor.
•Sicrhau fod gan y staff y sgiliau angenrheidiol i ymgymryd a’r gwaith yn saff ac yn ddigonol, gan fonitro’r rhaglen hyfforddiant a chyfrifoldeb dros ddatblygu’r staff.
•Sicrhau bod y drefn cofrestru staff yn cael ei ddilyn, yn unol a unrhyw ofynion Gofal Cymdeithasol Cymru, a bod y staff yn ymwybodol o’r cod proffesiynol.
•Cydweithio gydag aelodau o’r TAC i gynnal asesiad parhaus o’r galw a’r adnoddau yn lleol.
•Yn ddibynnol ar y galw, a’r gallu i flaenoriaethu yn lleol, cyfrifoldeb ar y cyd gyda’r Rheolwr Cofrestredig dros hysbysebu, penodi ac anwytho staff newydd o fewn yr is-ardal.
•Sicrhau fod gan bob aelod staff ddadleniad DBS priodol.
•Cyfrifoldeb dros ddefnyddio system y gwasanaeth e.e. CACI, gan fewn-fwydo gwybodaeth am ddefnyddwyr gwasanaeth, cynllunio gwaith i’r Gweithwyr Gofal Cymunedol, a chofnodi gwybodaeth yn gywir ar y system.
•Sicrhau fod y Gweithwyr Gofal Cymunedol yn gwneud y defnydd cywir o’r PDA. Gall hyn gynnwys hyfforddi staff newydd ar sut i’w defnyddio, a monitro defnydd cywir yn barhaus.
•Sicrhau fod y patrymau gwaith yn cael eu trefnu i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau staff sydd ar gael yn lleol, ac yn cwrdd ag anghenion gofal yr unigolion.
•Gallu delio gyda materion sydd yn codi ‘ar alwad’, gan ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth priodol i wneud hynny.
•Sicrhau arweiniad a chefnogaeth addas i staff, pan byddant yn cysylltu mewn sefyllfaoedd o argyfwng, drwy wneud defnydd o unrhyw ganllawiau perthnasol.
•Cymryd cyfrifoldeb am gasglu ac adrodd ar ddata rheolaethol ar lefel lleol e.e. adrodd ar salwch yn fisol, gan ddiweddaru’r wybodaeth yn electroneg i gofnodi a pharatoi adroddiadau yn unol â gofynion.
•Cyfrannu at fonitro ac adolygu safon y gwasanaeth, gan sicrhau cysondeb i’n trefniadau a’r ddarpariaeth i’n trigolion.
•Ymarfer mewn modd sy’n egwyddorol yn unol â chod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
•Gweithio fel rhan o dîm gan gefnogi cydweithwyr ar bob lefel, a gwneud cysylltiadau yn lleol ac ar draws y gwasanaeth.
•Trefnu ac arwain cyfarfodydd staff, a chofnodi yn unol a gofynion RISCA, gyda chyfrifoldeb dros adrodd yn ôl ar unrhyw faterion sydd angen dod i sylw’r Rheolwr Cofrestredig.
•Bod yn barod i gyfrannu at ddatblygu polisïau a chanllawiau ar gyfer y gwasanaeth.
•Bod yn rhan o’r broses i ddelio gyda chwynion a chanmoliaethau, a chyfrannu at y broses ymchwilio.
•Sicrhau bod holl absenodebau staff yn cael eu cofnodi yn unol a polisiau’r gwasanaeth/Adnoddau Dynol.
•Cyfrifoldeb dros gynnal asesiadau risg sydd yn berthnasol i’r gwaith, y staff, a darpariaeth gofal yr unigolyn.
•Sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw drefniadau rheoli risg a adnabyddir mewn asesiadau risg sy’n berthnasol i’r gwaith.
•Cymeryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd eraill perthnasol yn ôl yr angen er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb dros faterion diogelu, gan roi ystyriaeth i risg, diogelu ac amddiffyn oedolion. Delio ac unrhyw bryderon amddiffyn oedolion yn brydlon a phriodol drwy ddilyn y weithdrefn a gytunwyd a hysbysu’r swyddogion proffesiynol perthnasol heb oedi.
CYFRIFOLDEBAU ERAILL
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad, ac ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sydd wedi ei adnabod yn berthnasol i’r swydd e.e. Cymhwyster Proffesiynol perthnasol, B-tech Asesu mân offer.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Disgwyliad i weithio y tu hwnt i ffiniau ardal waith yn achlysurol.
•Ar brydiau, mewn amgylchiadau arbennig, bydd gofyn bod yn barod i ymgymryd â dyletswyddau cydweithiwr er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth (e.e. cyfnod salwch neu wyliau).
•Bod yn barod i ymgymryd â dyletswyddau allan o oriau’r gwasanaeth, drwy fod yn rhan o rota ‘ar alwad’.
•Yn unôl â’r galw o fewn y gwasanaeth, derbynnir bydd angen, ar brydiau, i’r unigolyn weithio yn hyblyg, gan roi mwy o bwyslais a’r rai agweddau o’r swydd ddisgrifiad nac eraill e.e. rôl cynllunio neu oruchwylio.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein