Mae Carfan Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi Cydlynydd Un Pwynt Mynediad Parhaol.
Bydd yr Unigolyn yn cyflwyno delwedd bositif o'r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad (yn rhan o'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth i Oedolion) i'r cyhoedd ac i weithwyr proffesiynol.
O'ch penodi i'r swydd yma, byddwch chi'n rhoi gwybodaeth briodol a/neu gynnal asesiad cymesur a hyrwyddo diwylliant o annibyniaeth a chanlyniadau cadarnhaol wrth gyfeirio at wasanaethau a'u comisiynu.
Byddwch chi'n cael darlun clir o anghenion defnyddwyr y gwasanaeth, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn dan sylw. Byddwch chi'n gwneud hyn drwy drafod â'r unigolyn, y teulu ac aseswyr eraill, ac yn ei gyfeirio at y gwasanaeth mwyaf addas (neu yn comisiynu gwasanaeth) er mwyn sicrhau deilliannau dymunol, gan wneud y gorau o annibyniaeth - bydd hyn yn flaenoriaeth.
Bydd gyda chi gymhwyster cydnabyddedig mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster arall sy'n gysylltiedig ag Iechyd, neu brofiad ym maes Gofal yn y Gymuned neu leoliad adsefydlu.
Bydd gyda chi brofiad o ddelio ag achosion a/neu sefyllfaoedd cymhleth unigol, a phrofiad o asesu risg yn y Gymuned.
Os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â Leanne Traylor drwy e-bost ar
[email protected]Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.