37 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol a llawn cymhelliant i ymgymryd â rôl Cydlynydd Ymgysylltu ag Addysg Arweiniol.
Mae hon yn swydd arweinyddiaeth allweddol yn y Tîm Ymgysylltu ag Addysg, lle byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth wella presenoldeb ysgol, cefnogi dysgwyr agored i niwed, a sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad at addysg briodol a chynhwysol.
Byddwch yn arwain y tîm yn weithredol ac yn gweithio'n agos gydag ysgolion, teuluoedd, ac asiantaethau partner i ysgogi gwell canlyniadau i blant sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n dod ag arweinyddiaeth gref, arbenigedd, ac ymrwymiad i gefnogi plant a theuluoedd.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person