Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch nad yw'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr ar gael ar hyn o bryd oherwydd cynnal a chadw.

Cymhorthydd Gofal Nos Plas Pengwaith

Dyddiad cau 22/07/2026

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£27,657 - £28,096 a year (GS3) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Adran Oedolion Iechyd a Llesiant

LLEOLIAD: - CARTREF PRESWYL PLAS PENGWAITH, LLANBERIS.

CYMHORTHYDD GOFAL NOS

Y cartref yn treialu shiftiau 12 awr ar hyn o bryd.

                

Nodweddion personol

Hanfodol

Bod yn berson cyfrifol, sensitif, ymroddedig gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser.

Gallu gweithredu fel aelod o dim.

Dymunol

-

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

-

Dymunol

N.V.Q 2 mewn Gofal

Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf

Profiad perthnasol

Hanfodol

-

Dymunol

Profiad o fod yn neffro drwy’r nos.

Profiad o ofalu neu ymwneud a phobl hyn.

Profiad o waith domestig.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da

Dealltwriaeth am anghenion pobl hyn

Dymunol

-

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad - Canolradd

Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.

Darllen a Deall - Canolradd

Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)

Ysgrifennu - Canolradd

Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).

                

Pwrpas y swydd

Sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr yn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr unigol. Sicrhau y cedwir amgylchedd cyfforddus a glan yn y cartref. Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisiau y Cyngor. Cyfrifoldeb am y preswylwyr yn ystod oriau nos yn absenoldeb y rheolwr

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

Parchu a defnyddio'n briodol holl offer a cyfarpar sydd yn y cartref. Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i'r rheolwr cofrestredig neu'r person sydd a chyfrifoldeb am y cartref ar y pryd o unrhyw diffyg mewn unrhyw offer, neu o'r gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb). Sicrhau rheolaeth priodol o eiddo defnyddwyr e.e. meddyginiaeth ac arian parod.

Prif ddyletswyddau

Sicrhau a pherchir urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol a'r Safonau Gofynion Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hyn.

Bod yn sensitif i'r angen am barchu hawliau yr unigolyn ar bob achlysur.

Cadw cyfrinachedd ar bob agwedd o weithrediadau'r cartref.

Bod yn rhan o’r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu cynllun y defnyddiwr unigol.

Gweithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer nifer penodedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd adolygu a chynhadleddau achos y defnyddwyr hynny gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.

Ymgymeryd a dyletswyddau glanhau a londri.

Paratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.

Ymgymeryd a'r dasg o dderbyn a dosbarthu meddyginiaeth yn unol a polisi'r Cyngor.

Mynychu cyrsiau hyfforddi ac NVQ lefel 2 yn benodol. A sicrhau ymwybyddiaeth cyson o faterion gofal.

Mynychu cyfarfodydd yn unol a chyfarwyddid Rheolwr Cofrestredig y Cartref.

Ymgyfarwyddo a gweithredu polisïau, trefniadaeth a chanllawiau’r Cyngor yngln ag arferion da a materion yn ymwneud a Iechyd a Diogelwch.

Wrth ddod ar ddyletswydd ymgydnabyddu a chyflwr cyffredinol yr holl breswylwyr a’r sefyllfa gyfredol o fewn y cartref.

Derbyn defnyddwyr newydd i’r cartref mewn amgylchiadau brys.

Cofrestru â Chyngor Gofal yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.

Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.  Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau arbennig

Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.