Adran Oedolion Iechyd a Llesiant
LLEOLIAD: - CARTREF PRESWYL PLAS PENGWAITH, LLANBERIS.
CYMHORTHYDD GOFAL NOS
Cyflog: £25,712 - £26,121 y flwyddyn
Oriau: 108 awr pob 4 wythnos
Rota 4 wythnos - gweithio 2 noson am 3 wythnos a 3 noson ar 1 wythnos - shiftiau 12 awr
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod i weithio drwy’r nos i sicrhau awyrgylch mor gartrefol â phosib i’r trigolion. Y prif ddyletswyddau fydd sicrhau bod y Cartref yn lan, cynnes a chyfforddus, ac i ofalu am les gorfforol ac emosiynol y trigolion.
Dylai deilydd y swydd feddu ar natur gyfrifol ac aeddfed. Disgwylir i’r person fod ag agwedd sensitif tuag at anghenion y trigolion ac yn parchu eu preifatrwydd. Bydd profiad a chymhwyster ym maes gofal yn fanteisiol.
Gofynnir i bawb sy’n cael rhestr fer am gyfweliad ymgeisio am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu a Lorraine Powell Rheolwr Cartref Preswyl Plas Pengwaith, Llanberis. Gwynedd.
(Ffon: 01286 870360)
(E-bost: LorrainePowell@gwynedd.llyw.cymru)
I ymgeisio am y swydd cliciwch ar y linc yma
Bydd angen sicrhau eich fod wedi lawrlwytho ‘Adbobe Reader DC’ er mwyn gallu cwblhau ffurflen gais.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon. LL55 1SH. Rhif Ffon 01286 679076.
DYDDIAD CAU: 15/10/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais NEU lythyr. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
Bod yn berson cyfrifol, sensitif, ymroddedig gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser.
Gallu gweithredu fel aelod o dim.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
N.V.Q 2 mewn Gofal
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Profiad perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
Profiad o fod yn neffro drwy’r nos.
Profiad o ofalu neu ymwneud a phobl hyn.
Profiad o waith domestig.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dealltwriaeth am anghenion pobl hyn
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Pwrpas y swydd
•Sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr yn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr unigol. Sicrhau y cedwir amgylchedd cyfforddus a glan yn y cartref. Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisiau y Cyngor. Cyfrifoldeb am y preswylwyr yn ystod oriau nos yn absenoldeb y rheolwr
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Parchu a defnyddio'n briodol holl offer a cyfarpar sydd yn y cartref. Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i'r rheolwr cofrestredig neu'r person sydd a chyfrifoldeb am y cartref ar y pryd o unrhyw diffyg mewn unrhyw offer, neu o'r gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb). Sicrhau rheolaeth priodol o eiddo defnyddwyr e.e. meddyginiaeth ac arian parod.
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau a pherchir urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol a'r Safonau Gofynion Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hyn.
•Bod yn sensitif i'r angen am barchu hawliau yr unigolyn ar bob achlysur.
•Cadw cyfrinachedd ar bob agwedd o weithrediadau'r cartref.
•Bod yn rhan o’r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu cynllun y defnyddiwr unigol.
• Gweithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer nifer penodedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd adolygu a chynhadleddau achos y defnyddwyr hynny gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
•Ymgymeryd a dyletswyddau glanhau a londri.
•Paratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.
•Ymgymeryd a'r dasg o dderbyn a dosbarthu meddyginiaeth yn unol a polisi'r Cyngor.
•Mynychu cyrsiau hyfforddi ac NVQ lefel 2 yn benodol. A sicrhau ymwybyddiaeth cyson o faterion gofal.
•Mynychu cyfarfodydd yn unol a chyfarwyddid Rheolwr Cofrestredig y Cartref.
•Ymgyfarwyddo a gweithredu polisïau, trefniadaeth a chanllawiau’r Cyngor yngln ag arferion da a materion yn ymwneud a Iechyd a Diogelwch.
•Wrth ddod ar ddyletswydd ymgydnabyddu a chyflwr cyffredinol yr holl breswylwyr a’r sefyllfa gyfredol o fewn y cartref.
•Derbyn defnyddwyr newydd i’r cartref mewn amgylchiadau brys.
•Cofrestru â Chyngor Gofal yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol