Cymhorthydd Gofal Plas Hedd
Dyddiad cau 02/01/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Math o gontract
- Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Carys Owen ar 01248 351827
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 10.00 O'R GLOCH, 02/01/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Cyfeillgar, allblyg ag yn barod i ymgymryd a hyfforddiant
Y gallu i weithio fel rhan o dim aml-ddisgyblaeth
Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dim
Person cydwybodol, creadigol, emosiynol a person pwyllog pan yn delio gyda unigolion.
Bod yn gadarnhaol ac yn angerddol
Ddim yn farnwr
Yn gallu gwrando a pharchu syniadau eraill, er na fyddwch yn cytuno
Yn gallu defnyddio'ch dychymyg i gysylltu'n emosiynol ag eraill
Gwerthfawrogi gallu'r unigolyn
Gallu gwneud y gorau o'r amser y mae'n rhaid i chi gysylltu yn gadarnhaol a'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth
Yn gallu adnabod a chefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau gwahanol
Yn gallu gwerthfawrogi a pharchu sgiliau a phersonoliaethau eraill
Y gallu i fod yn hyblyg
Dangos agwedd broffesiynol gyfeillgar
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
-
DYMUNOL
NVQ level 2/QCF 2 mewn Gofal
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Yr opsiwn i fod yn champion mewn maes arbennigol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
-
DYMUNOL
Profiad o gefnogi unigolion i fyw eu bywydau fel maent yn dymuno.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Helpu yr unigolyn i fyw eu bywyd fel mae'n dymuno ei fyw.
• Cymeryd rol llawn gofal o'r cartref.
• Cyd weithio gyda asiantaethau eraill, er lles yr unigolion, yn cynnwys mynychu adolygiadau, cyfarfdoydd gyda iechyd, ymgynghoir gyda'r arbennigwyr,
• Dosbarthu meddyginiaeth
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Sicrhau defnydd priodol o eiddo unigolion e.e meddyginiaeth ac arian.
• Gwneud defnydd priodol o offer arbennigol sy'n helpu yr unigolyn fyw eu bywyd yn ol eu dymuniadau ac amcanion personol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar ddiffygion a dilyn protocolau ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ol yr angen.
Prif Ddyletswyddau.
CEFNOGI'R UNIGOLION SY'N DEFNYDDIO'R GWASANAETH
• Rôl - llawn gofal o'r cartref os yn briodol
• Cymeryd cyfrifoldeb am y cartref a'r rôl person cyfrifol.
• Arwain y staff gyda'i dyletswyddau gwaith.
• Gwneud penderfyniadau yn absenoldeb y rheolwyr , ee derbyn mynediadau o'r yn nol o'r ysbytai, arwain mewn argyfwng, ymateb i ymholiadau.
• Ymateb ac arwain sefyllfa argyfwng yn ymwneud a'r defnyddwyr a'r adeilad
• Adnabod newidiadau mewn iechyd a llesiant unigolion ac ymateb yn sydyn ac yn briodol iddynt.
• Bod yn flaengar ac yn barod i wneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol, tra hefyd yn cymhwyso barn broffesiynol a gwybod pryd i ddenu cefnogaeth gan y tim ehangach a phroffesiynau eraill.
Dyletswyddau Gweithiwr Gofal
• Rhagori mewn adeiladu perthynas â phobl er mwyn deall yn iawn beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddynt yn eu bywydau a grymuso llais yr unigolyn ar bob cyfle.
• Bod yn arloesol a chreadigol wrth roi gofal mewn ffordd sy'n cynnwys pobl yn llawn, sy'n ymdrechu'n barhaus i gynnwys pobl yn y gweithgareddau symlaf hyd yn oed ac sy'n galluogi neu'n ail-alluogi pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau eu hunain.
• Gweithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth gan fynychu cyfarfodydd a chyfrannu ar lafar ac yn ysgrifenedig
• Cynnal a chefnogi gyda'r drefn o weinyddu a dosbarthu meddiginaeth yn unol a pholisi'r gwasanaeth.
• Hyrwyddo hawliau'r unigolyn, ac annog cymryd risgiau cadarnhaol a gwybodus.
• Dilyn ethos sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu annibyniaeth. Gall hyn olygu gweithredu dulliau fel Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support),
• Datblygu a dilyn cynllunniau gofal personol sy'n cael ei greu mewn partneriaeth â'r unigolyn i'w hyrwyddo a'i annog i fyw ei fywyd mor llawn â phosibl trwy wneud defnydd o unrhyw adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael yn eu cymuned.
• Cyfrannu at y broses asesu, monitro, cynllunio a gweithredu gweithgareddau yn unol ag anghenion defnyddiwr y gwasanaeth. Gall y gweithredoedd yma gynnwys cymeryd rhan mewn rhaglenni, ymarferion ac ymyrraethau penodol.
• Annog a chefnogi defnyddwyr y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau er mwyn eu galluogi i fyw yn llwyddiannus oddi mewn eu cymuned, trwy osod amcanion, datrus problemau a dysgu sut i adnabod pryd mae newid mewn amgylchiadau ac anghenion yn newid.
• Profi ffyrdd newydd o gefnogi a meddwl y tu allan i'r bocs am atebion creadigol sy'n tynnu ar gryfderau, asedau a rhwydweithiau anffurfiol yr unigolyn
• Cyfrannu mewn sgyrsiau aml ddisgyblaethol am ganlyniadau llesiant personol pobl a ffyrdd y gellir eu cefnogi i'w cyflawni, gan eu helpu i helpu eu hunain a defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael yn y maes hwnnw.
• Gweithio gyda phobl i helpu a nodi rhwystrau i gyflawni eu canlyniadau, a defnyddio gwybodaeth i drafod gyda'r tîm ehangach, rhoi newid ar waith a dysgu o brofiad.
• Bod yn gyfrifol am gynnal gwaith gweinyddol sy'n berthnasol i'r rôl gan gynnwys cofnodi ac adrodd yn unol â'r canllawiau a osodir gan y Rheolwr ar ran Cyngor Gwynedd.
• Cefnogi gyda dyletswyddau cadw Tŷ, pharatoi prydau ysgafn
• Gweithredu a chynnal systemau IT
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
• Gweithio mewn partneriaeth â chydweithywr ym maes iechyd a gofal, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsus seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapi, meddygon teulu a phartnertiad 3ydd sector.
• Gweithredu ar gyfleoedd i adeiladu bywydau sy'n gysylltiedig â rhwydweithiau teuluol a chymunedol a bod yn glir ynghylch yr hyn y maent yno i helpu'r person i'w gyflawni.
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Ymrwymo i ddilyn ei raglen hyfforddi ei hun yn unol â'r Gofynion Cenedlaethol, a derbyn cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaol.
• Bod â meddylfryd sy'n agored i ddysgu yn barhaus ac awydd i ddatblygu yn broffesiynol oddi fewn y maes iechyd a gofal.
• Mynychu a chyfrannu tuag at weithgareddau adeiladol megis goruchwyliaeth a chyfarfodydd tim sy'n cefnogi meddylfryd a wella a datblygu y gwasanaeth a llesiant staff.
• Cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru gan ymddwyn mewn modd sy'n egwyddorol yn unol â'r cod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol
DIOGELU
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
POLISÏAU
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cydymffurfio'n llawn â Chod Ymarfer Meddyginiaeth Cyngor Gwynedd, gan gynnwys gweinyddu meddyginiaeth.
ARALL
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd angen mynd trwy brosesau'r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio
• Angen gweithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota. Gall hyn gynnwys gŵyl y banc a phenwythnosau yn ôl yr angen.
• Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw'n angenrheidiol.

Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.