Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Linda Jones drwy e-bost Lindamariejones@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 07/10/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
Cyfeillgar, allblyg ag yn barod i ymgymryd a hyfforddiant
Y gallu i weithio fel rhan o dim aml-ddisgyblaeth
Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dim
Person cydwybodol, creadigol, emosiynol a person pwyllog pan yn delio gyda unigolion.
Bod yn gadarnhaol ac yn angerddol
Ddim yn farnwr
Yn gallu gwrando a pharchu syniadau eraill, er na fyddwch yn cytuno
Yn gallu defnyddio’ch dychymyg i gysylltu’n emosiynol ag eraill
Gwerthfawrogi gallu’r unigolyn
Gallu gwneud y gorau o’r amser y mae’n rhaid i chi gysylltu yn gadarnhaol a’r unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth
Yn gallu adnabod a chefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau gwahanol
Yn gallu gwerthfawrogi a pharchu sgiliau a phersonoliaethau eraill
Y gallu i fod yn hyblyg
Dangos agwedd broffesiynol gyfeillgar
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
NVQ level 2/QCF 2 mewn Gofal
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Yr opsiwn i fod yn champion mewn maes arbennigol
Profiad perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
Profiad o gefnogi unigolion i fyw eu bywydau fel maent yn dymuno.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Helpu yr unigolyn i fyw eu bywyd fel mae’n dymuno ei fyw.
•Cymryd cyfrifoldeb llawn o’r cartref, yn ôl yr angen.
•Cydweithio gydag asiantaethau eraill, er lles yr unigolion, yn cynnwys mynychu adolygiadau, cyfarfodydd gyda iechyd ac ymgynghori gyda’r arbenigwyr.
•Dosbarthu meddyginiaeth.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Sicrhau defnydd priodol o eiddo unigolion e.e meddyginiaeth ac arian.
•Gwneud defnydd priodol o offer arbenigol sy’n helpu yr unigolyn fyw eu bywyd yn ôl eu dymuniadau ac amcanion personol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar broblemau gyda’r offer a dilyn protocol ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ôl yr angen.
Prif ddyletswyddau
•Cefnogi’r unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth
•Cymryd cyfrifoldeb am y cartref a chymryd rôl y person cyfrifol.
•Arwain y staff gyda’u dyletswyddau gwaith.
•Gwneud penderfyniadau yn absenoldeb y rheolwyr, e.e. derbyn unigolion yn ôl o’r ysbytai, arwain mewn argyfwng ac ymateb i ymholiadau.
•Ymateb ac arwain mewn sefyllfa o argyfwng sy’n ymwneud â’r unigolion a’r adeilad.
•Adnabod newidiadau mewn iechyd a llesiant unigolion ac ymateb yn sydyn ac yn briodol iddynt.
•Bod yn flaengar (progressive) ac yn barod i wneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol, rhoi barn broffesiynol a gwybod pryd i ofyn am gefnogaeth gan y tîm ehangach ac arbenigwyr eraill.
Dyletswyddau y Cymhorthydd Gofal
•Rhagori (excel) mewn adeiladu perthynas â phobl er mwyn deall yn iawn beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddynt yn eu bywydau a grymuso (empower) llais yr unigolyn ar bob cyfle.
•Gallu meddwl am ffyrdd gwahanol a chreadigol o roi gofal. Gwneud pob ymdrech i gynnwys pobl ym mhob gweithgaredd a chefnogi pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau eu hunain.
•Cymryd rôl gweithiwr allweddol gan fynychu cyfarfodydd a chyfrannu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
•Cynnal a chefnogi’r drefn o weinyddu (administer) a dosbarthu meddyginiaeth yn unol â pholisi’r gwasanaeth.
•Hyrwyddo hawliau'r unigolyn ac annog cymryd risgiau cadarnhaol a gwybodus.
•Datblygu a dilyn cynlluniau gofal personol gyda’r unigolyn a’i annog i fyw bywyd mor llawn â phosibl trwy wneud defnydd o unrhyw adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael yn eu cymuned.
•Cyfrannu at y broses asesu, monitro, cynllunio a gweithredu gweithgareddau yn unol ag anghenion yr unigolyn. Gall hyn gynnwys cymryd rhan mewn rhaglenni, ymarferion ac ymyraethau penodol.
•Annog a chefnogi’r unigolyn i ddatblygu eu sgiliau er mwyn eu galluogi i fyw yn llwyddiannus yn eu cymuned, trwy osod amcanion, datrys problemau a dysgu sut i adnabod pryd mae newid mewn amgylchiadau ac anghenion.
•Profi ffyrdd newydd o gefnogi a meddwl y tu allan i’r bocs am atebion creadigol sy’n tynnu ar gryfderau, asedau a rhwydweithiau anffurfiol yr unigolyn.
•Cyfrannu mewn sgyrsiau aml ddisgyblaethol am ganlyniadau llesiant personol pobl a ffyrdd y gellir eu cefnogi i’w cyflawni, gan eu cefnogi i helpu eu hunain a defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael yn y maes hwnnw.
•Gweithio gydag unigolion i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, gan gyd-weithio ag eraill, yn ôl yr angen.
•Bod yn gyfrifol am waith gweinyddol sy’n berthnasol i’r rôl gan gynnwys cofnodi ac adrodd yn unol â’r canllawiau a osodir gan y Rheolwr ar ran Cyngor Gwynedd.
•Cefnogi gyda dyletswyddau cadw tŷ a pharatoi prydau ysgafn.
•Defnyddio systemau Technoleg.
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
•Gweithio mewn partneriaeth â’r maes iechyd a gofal, e.e. gweithwyr cymdeithasol, nyrsys seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapi, meddygon teulu a phartneriaid trydydd sector.
•Gweithredu ar gyfleoedd i adeiladu bywydau sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau teuluol a chymunedol a bod yn glir ynghylch yr hyn maen nhw’n gallu helpu’r unigolyn i’w gyflawni.
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Ymrwymo i ddilyn rhaglen hyfforddi yn unol â'r Gofynion Cenedlaethol, a derbyn cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
•Bod yn agored i ddysgu’n barhaus ac i ddatblygu yn broffesiynol yn y maes iechyd a gofal.
•Mynychu a chyfrannu tuag at weithgareddau adeiladol fel goruchwyliaeth a chyfarfodydd tîm sy’n cefnogi meddylfryd o wella a datblygu y gwasanaeth a llesiant staff.
•Cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru gan ymddwyn yn unol â’r cod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
DIOGELU
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
POLISÏAU
•Rheoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Cydymffurfio â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor.
•Cydymffurfio'n llawn â Chod Ymarfer Meddyginiaeth Cyngor Gwynedd, gan gynnwys gweinyddu (administer) meddyginiaeth.
ARALL
•Ymrwymo i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon. Annog eraill i weithio tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen mynd trwy brosesau'r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio
•Angen gweithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota. Gall hyn gynnwys gŵyl y banc a phenwythnosau yn ôl yr angen.
•Disgwyliad i weithio ar draws gwasanaethau darparu gofal eraill, pan fo angen.