Rydym eisiau penodi cymhorthydd gweinyddol ar sail parhaol.
Dyma gyfle cyffrous a heriol i'r person cywir ymuno â'r tîm prysur a deinamig sy'n cefnogi Gwasanaethau Pobl Hŷn Conwy.
Bydd y cytundeb 37 awr yn cynnwys gweithio dydd Llun tan ddydd Gwener. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau gweinyddu a chyfathrebu ardderchog, sgiliau trefnu da; a bydd yn gallu addasu ac yn gallu dangos profiad o weithredu ar y lefel hon. Hefyd, os am gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, bydd yn rhaid i chi feddu ar ddidwylledd personol, bod yn ddigynnwrf dan bwysau, a bod â sylw agos i fanylion.
Am hynny, byddwch yn derbyn:
- Pecyn gwyliau blynyddol hael
- Mynediad i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Cyfleoedd i dderbyn hyfforddiant
- Pecyn buddion staff hael
Bydd pob diwrnod yn wahanol - byddwch yn cyfarch pobl, trefnu cyfarfodydd ac ystafelloedd cyfarfod, rheoli galwadau a negeseuon e-bost, cadw cofnodion mewn cyfarfodydd, delio gyda dyletswyddau swyddfa gan gynnwys mewnbynnu data, rheoli systemau data, prosesu amserlenni, paratoi llythyrau a llawer mwy.
Gan fod y tîm yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, mae'r gallu i gyfathrebu a sgwrsio yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Mae hwn yn gyfle gwych felly os ydych yn teimlo fod y sgiliau a'r profiad cywir gennych, gwnewch gais. Byddem wrth ein boddau'n clywed gennych chi.
Bydd gofyn i chi gyflawni gwiriad Datgelu gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Meinir Roberts, R heolwr Adran 01492577773, meinir.roberts@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.