37 awr yr wythnos
Dros dro - Cyfnod Mamolaeth
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sydd ag angerdd am sicrhau bod anghenion plant, pobl ifanc a'u teulu'n cael eu diwallu ar gam cynnar gan atal materion rhag gwaethygu i'r pwynt lle mae angen gwasanaethau statudol.
Bydd eich profiad fel gweithwyr proffesiynol yn ymwneud ag addysg, gofal cymdeithasol neu'r sector gwirfoddol yn eich galluogi i weithio'n agos gydag amrywiaeth o staff ar draws iechyd, yr heddlu, addysg a gofal cymdeithasol i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi'u nodi fel rhai y mae angen Cymorth Cynnar arnynt. Byddwch yn gweithio yn y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yn y tîm Sgrinio Cymorth Cynnar gan roi cyngor, gwybodaeth a chymorth arbenigol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae hwn yn gyfle i ddatblygu eich sgiliau wrth weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Os ydych yn meddu ar y wybodaeth broffesiynol angenrheidiol wedi'i hategu gan brofiad, edrychwn ymlaen at glywed gennych. Yn gyfnewid, gallwn gynnig cyfle i chi weithredu newid mewn amgylchedd cefnogol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch Ruth Jones neu Danielle Jones, Uwch-swyddogion Sgrinio ar 01656 815420.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf
Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 03 Awst 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 10 Awst 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person