Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Cynorthwy-ydd Chwarae Dechrau’n Deg (cyfnod mamolaeth dros dro)

Dyddiad cau 31/08/2026

Cyflogwr

Cardiff Council/Cyngor Caerdydd

Lleoliad

  • Caerdydd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£Gradd 3 - £25,185 - £25,989 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Am Y Gwasanaeth

Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am 2 Cynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars.

Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath.    Rydym yn falch o fod yn lleoliad cynnes a chroesawgar yng nghanol y gymuned, sy'n darparu gofal plant o ansawdd uchel i blant 2-3 oed, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, fel rhan o ddarpariaeth Dechrau'n Deg.   Rydym wedi ein lleoli ar dir Ysgol Gynradd Moorlands.

Mae rhieni y mae eu plant wedi mynychu Twinkle Stars wedi dweud:

"Rydw i mor ddiolchgar i'r staff, gwnaethon nhw helpu fy mab ac rwy’n gallu gweld gwelliant enfawr.  Gwnaethon nhw wrando arnom am bryderon am ein mab a gwnaethant bopeth o fewn eu gallu i'n cefnogi. Mae’r staff yn wych. Mae ein mab wrth ei fodd yn mynd yno".

Mae aelod o staff wedi dweud:

' Dwi wrth fy modd yn gweithio yn Twinkle Star. Mae'r gefnogaeth gan reolwyr yn anhygoel, maen nhw bob amser yno os oes angen unrhyw beth arnoch chi. Maen nhw’n hapus i gynnig cyfleoedd i chi ddatblygu'n broffesiynol a dysgu sgiliau newydd hefyd. Dwi wedi gweithio mewn sawl lleoliad gofal plant ac yn Twinkle Star dwi wedi cael y gefnogaeth fwyaf, yn fy natblygiad proffesiynol i gyflawni fy swydd yn hyderus. Os ydych yn angerddol am weithio gyda phlant, Twinkle Star yw'r lleoliad lle byddech eisiau gweithio. '

Dyma beth ddywedodd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ein harolwg diwethaf:

‘Mae ymarferwyr yn darparu amgylchedd meithringar a gofalgar lle mae anghenion y plant yn dod gyntaf.  ........... Mae'r ardaloedd chwarae dan do ac awyr agored yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i blant ei archwilio ac i ddysgu, ac mae ymarferwyr yn addasu'r ddarpariaeth a'r adnoddau mewn ymateb i ddiddordebau’r plant.' 

Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i thargedu at blant dan 4 oed a’u teuluoedd.  Mae gofal plant rhan-amser ar gyfer plant 2-3 oed yn un rhan o arlwy Dechrau'n Deg.

Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg Twinkle Stars yn rhan o Wasanaeth Rhianta a Chwarae Cyngor Caerdydd, yng Nghymorth Cynnar Caerdydd. Gallwch ddysgu mwy am elfennau Cymorth Cynnar drwy ymweld â'r wefan www.teuluoeddcaerdydd.co.uk.

Cefnogir y lleoliad gofal plant gan dîm arweinyddiaeth ymroddedig a phwrpasol o fewn gwasanaeth Rhianta a Chwarae Caerdydd. Rydym yn rhan o dîm amlasiantaeth ehangach o weithwyr proffesiynol sy'n darparu Gwasanaethau Rhianta a Chwarae ledled Caerdydd.   Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i gefnogi staff, cyfleoedd hyfforddi rhagorol a datblygiad gyrfaol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein:

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.