Math o gontract: Achlysurol/ Wrth Gefn
Lleoliad: Chartrefi Preswyl ledled y Fwrdeistref Sirol
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws Y Sector Gofal Preswyl i Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £12.60 yr awr - Cyflog Byw Gwirioneddol, ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw gwirioneddol. Felly, mae'r cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn cynnwys ychwanegiad cyflog.Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwywyr Domestig i weithio yn unrhyw un o'r 6 Chartref Gofal ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'r swydd yn cynnwys cynorthwyo'r Cogyddion yn y ceginau neu ymgymryd â dyletswyddau golchi a/neu lanhau dillad.
Gallwch chi weithio rhwng 2 a 5 shifft dros unrhyw 7 diwrnod yr wythnos yn achlysurol. Bydd oriau gwaith yn cynnwys gweithio ar y penwythnos a gwyliau banc.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal (byddai’n fuddiol, er nad yw'n hanfodol).
- Gwybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o ansawdd, gan gynnwys urddas a dewis.
- Dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a’r gallu i fod yn gwrtais ac ymatebol i anghenion ein preswylwyr.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Tracey Walters ar 07968375059 neu ebost
waltet@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth