Oriau gwaith: 16 oriau yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Rhan Amser
Lleoliad: Cartref Preswyl Trem y Castell
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau Gofal Preswyl ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £12 yr awr ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw gwirioneddol. Felly, mae'r cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn cynnwys ychwanegiad cyflog.Mae Cartref Preswyl Trem y Castell yn awyddus i recriwtio 1 x Cynorthwyydd Domestig 16 awr i weithio 3 diwrnod dros wythnos 7 diwrnod a fydd yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc ar batrwm rota. Bydd hefyd gyfleoedd i weithio oriau ychwanegol.
Rydyn ni'n chwilio am y person iawn a all ymuno â'n tîm sy'n hyrwyddo awyrgylch cartrefol, cynnes lle rydyn ni'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Bydd gofyn i chi gyflawni'ch dyletswyddau, a all gynnwys gweithio yn y gegin, golchi dillad neu lanhau, mewn modd urddasol/parchus. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd gofal a gwybodaeth am y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH), y Ddeddf Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gwybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, e.e. urddas, dewis, ac ati.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Mandy Chattaway ar 02920 852554 neu ebost: Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.