Oriau gwaith: 16.5 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Rhan Amswer
Lleoliad: Cartref Preswyl Tŷ Iscoed
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £12 Awr, Cyflog Byw Gwirioneddol ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydyn ni'n chwilio am y person iawn a all ymuno â'n tîm sy'n hyrwyddo awyrgylch cartrefol, cynnes lle rydyn ni'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Bydd gofyn i chi gyflawni eich dyletswyddau drwy weithio yn y gegin. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd gofal a gwybodaeth am y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH), y Ddeddf Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol.
Rhaid i chi fod â gwybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon e.e. urddas, dewis ac ati, mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Agwedd gwrtais, ymatebol a sensitif i anghenion unigolion.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
- Y gallu i weithio'n hyblyg gan gynnwys ar benwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carolie Davies/Kirsty Smith ar 01495 243189 neu ebost:
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.