Ydych chi'n unigolyn gofalgar sy'n dymuno helpu pobl ac sy'n chwilio am swydd Gofal/Cynnal Cartref hyblyg? Os ydych chi, ymunwch â ni, rydyn ni'n chwilio am unigolion i ymuno â'n carfan ymroddedig.
Eich gweithle...
Canolfan Adnoddau Tŷ Glynrhedynog
Heol yr Orsaf
Glynrhedynog
CF43 4ND
Mae'r cartref wedi'i leoli ym mhentref Glynrhedynog yn agos at bob cyfleuster lleol, gan gynnwys cysylltiadau bysiau â'r ardaloedd cyfagos.
Amdanom ni...
Rydyn ni'n darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer hyd at 20 o unigolion sydd â diagnosis o ddementia a gofal preswyl cyffredinol. Rydyn ni'n cefnogi'n preswylwyr i gynnal sgiliau, yn annog annibyniaeth ac yn hyrwyddo urddas a phreifatrwydd ar bob achlysur. Rydyn ni'n parchu dewisiadau pobl ac yn annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau a theithiau cymdeithasol.
Rydyn ni'n wasanaeth wedi'i reoleiddio felly rydyn ni'n canolbwyntio ar annog anghenion gofal unigol a sicrhau bod cynlluniau wedi'u seilio ar ddeilliannau.
Y rôl...
Mae gyda ni ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy'n ddibynadwy, sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy’n gweithio'n dda gydag eraill i weithio yn rhan o’n gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys tasgau cyffredinol yn ymwneud â chynnal cartref, gwaith cegin a gofal personol y preswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.
Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac ar gael ar fyr rybudd er mwyn cynorthwyo'n cartrefi gofal a gweithio pan fydd staff parhaol yn absennol yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau a dros nos.
Bydd gan ymgeiswyr y swyddi yma agwedd gadarnhaol a dealltwriaeth o anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio neu dreulio amser gyda phobl hŷn neu bobl ag anableddau o fantais. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i gwblhau Fframwaith Sefydlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan, sef rhaglen sydd wedi'i dylunio i'ch paratoi chi ar gyfer eich rôl newydd a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Buddion...
- Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i ariannu
- Aelodaeth cofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru wedi'i thalu
- Cefnogaeth lawn a rhaglen hyfforddiant am ddim
- Cysgodi aelodau o staff profiadol yn ystod eich cyfnod sefydlu
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) angenrheidiol a bydd asesiadau risg trylwyr o'r amgylchedd gwaith yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau'r llywodraeth
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol pwrpasol am ddim gan gynnwys hunanatgyfeirio ar gyfer ffisiotherapi a gwasanaeth cwnsela cyfrinachol
- Cynllun pensiwn gweithle hael
- Cerdyn buddion staff
- Mynediad at ostyngiadau Cerdyn Golau Glas
- Cyfleoedd i ddatblygu'ch gyrfa
Oes diddordeb gyda chi...?
Hoffech chi sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth? Cysylltwch â'n cartref a'n carfan reoli sy'n fwy na hapus i siarad â chi:
Tŷ Glynrhedynog – Laura Andrei – (01443) 730614.
Rydyn ni'n rhan o gynllun cyfweliad gwarantedig Gofalwn Cymru. Cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy anfon e-bost aton ni â chopi o dystysgrifau (Diogelu a Chyflwyniad i ofal cymdeithasol). Byddwn ni'n cysylltu â chi pan fyddwn ni wedi derbyn eich gwybodaeth.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn adnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y brosess denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwyd Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.
Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.