Rhif swydd. POSN003783 -Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol
Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i ymuno â'n Tîm Teulu a Ffrindiau. Mae’r swydd ran-amser hon yn un tymor penodol hyd at 31 Mawrth 2027. Mae’r tîm Teulu a Ffrindiau yn arbenigo mewn gweithio gyda phlant sy'n derbyn gofal gan aelodau estynedig o'r teulu neu ffrindiau a phlant sydd gartref gyda'u rhieni dan orchymyn gofal.
Mae hon yn rôl amrywiol ac mae'n cynnwys cynnal asesiadau ariannol, goruchwylio cyswllt, cwblhau gwiriadau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a rheoli desg ddyletswydd lle mae'n ofynnol i chi ddelio ag ymholiadau gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd goruchwylio amser teuluol yn rhan allweddol o'ch rôl, ond efallai y bydd cyfleoedd i wneud rhywfaint o waith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd.
Bydd y rôl yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol a threfnu gwiriadau ynghylch asesiadau. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gwblhau asesiadau ariannol o'n gofalwyr a bydd angen i chi fod yn fedrus wrth ddatblygu a chynnal gwaith amlasiantaethol effeithiol ar draws ystod o grwpiau proffesiynol. Byddwch yn effeithlon ac yn drefnus ac yn gweithio o fewn terfynau amser ac amserlenni tynn, gyda sgiliau rheoli rhifau ac yn gallu cyfrifo hawliau ariannol gofalwyr yn hyderus. Bydd angen i chi ymweld â defnyddwyr y gwasanaeth; cefnogi'r gweithwyr cymdeithasol yn y tîm a gweithio dan gyfarwyddyd Rheolwr Cynorthwyol y Tîm.
Byddwch yn llawn cymhelliant, yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth amserol ac effeithiol o ansawdd uchel gyda phlant a theuluoedd a bydd gennych sgiliau trefnu a rheoli amser da. Byddwch yn rhan o amgylchedd hynod gefnogol ac yn gallu manteisio'n dda ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o gwblhau asesiadau ariannol neu'n teimlo'n hyderus yn dysgu'r prosesau hyn .
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd