Lleoliad gwaith: Coed Pella
Ymunwch â’n Tîm fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol
A ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned? Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â Galw Gofal, gwasanaeth dwyieithog sy’n monitro galwadau 24/7 a sy’n cefnogi pobl i fyw’n annibynnol a sy’n ymateb i argyfyngau y tu allan i oriau arferol.
Dyma gyfle gwych i weithio yn y cyngor gan gyfrannu at wasanaeth sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
• Cefnogi’r tîm gyda thasgau clercio fel teipio, ffeilio, mewnbynnu data a rheoli taenlenni.
• Ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn a’r e-bost yn broffesiynol ac yn brydlon.
• Cynnal cofnodion cywir a sicrhau cyfrinachedd bob amser.
• Cofnodi a blaenoriaethu atgyfeiriadau teleofal gan gynnwys diwygiadau a dod â’r gwasanaeth i ben.
• Cofnodi’r holl wybodaeth a dderbynnir yn gywir ar y llwyfan monitro galwadau, dilysu data a gofalu am yr holl ffolderi gwaith.
Am beth rydym ni’n chwilio:
• Agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu.
• Sgiliau cyfathrebu da yn y Gymraeg a’r Saesneg (angen Cymraeg Lefel 4).
• Sgiliau TG sylfaenol a bod yn gyfarwydd â Microsoft Office.
• Gallu gweithio’n dda mewn tîm a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
• Gwytnwch emosiynol ac ymrwymiad i ddiogelu unigolion diamddiffyn.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn destun gwiriad yn unol â BS7858.
P’un ai ydych chi’n cychwyn ar eich gyrfa neu’n chwilio am her newydd, mae’r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu a ffynnu mewn amgylchedd croesawgar.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
A hoffech chi gael gwybod mwy?
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nick McCavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol ar 01492 575240.
Gofynion y Gymraeg: Mae gallu cyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, er hynny croesewir ceisiadau gan rai sy’n dysgu’r Gymraeg neu a fyddai’n fodlon dysgu Cymraeg i’r lefel briodol hefyd (cyrsiau ar gael yn y gwaith). Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.