Ydy gweithio'n rhan o garfan frwdfrydig a llawn cymhelliant yn apelio atoch chi? Mae gan y Garfan 4C (Consortiwm Comisiynu Plant Cymru) gyfle cyffrous ar gyfer Cynorthwy-ydd Gweinyddol, fydd yn darparu cymorth gweinyddol effeithiol ac effeithlon. Byddwch chi'n rhan o garfan ymroddedig sy'n canolbwyntio ar sicrhau'r deilliannau gorau posibl i blant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal ledled Cymru.
Mae'r garfan 4C yn garfan brysur sydd â baich gwaith amrywiol. Mae'n darparu gwasanaeth comisiynu cenedlaethol i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac yn rheoli Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer lleoliadau gwaith ym meysydd maethu annibynnol a phreswyl. Mae hyn yn cael ei ategu gan amrywiaeth o brosiectau polisi amrywiol, hyfforddiant wedi'i gomisiynu, ac ein Grŵp Comisiynwyr Ifainc sy'n weithredol.
Mae'r Garfan 4C yn chwilio am rywun sy'n frwdfrydig, sy'n drefnus, sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog, sy'n fanwl, ac sy'n gallu blaenoriaethu gan weithio'n dda yn rhan o garfan. Bydd modd i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo'r garfan drwy:
- Trefnu fforymau, cynadleddau ac achlysuron lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
- Bod y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Garfan 4C fydd yn cynnwys ymateb i ymholiadau cyffredinol dros y ffôn neu e-bost neu gyfeirio at aelod arall o'r garfan fel y bo'n addas.
- Paratoi agendau, llunio cofnodion cyfarfodydd, a rheoli cofnodion gweithrediadau.
- Cysoni anfonebau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu'n effeithiol drwy e-bost, ar y ffôn, Microsoft Teams / Zoom ac wyneb yn wyneb. Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig effeithiol, gan ymateb i bobl mewn modd proffesiynol ac ystyriol. Mae sgiliau hanfodol yn cynnwys sgiliau cyfrifiadura da (yn ddelfrydol - Microsoft Excel, PowerPoint, Word ac Eventbrite).
Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdod lletyol, ond ym Merthyr Tudful y mae'r swyddfa. Bydd angen gweithio o'r swyddfa 5 diwrnod yr wythnos ond bydd rhywfaint o gyfle i weithio'n hyblyg pan fo angen.
Gan mai swydd genedlaethol yw hon, bydd rhaid teithio'n annibynnol ledled Cymru i ddarparu cymorth busnes mewn cynadleddau neu achlysuron mawr wedi'u hwyluso gan y garfan.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Andrea O'Shea ar (01443) 570098.
Y gobaith yw cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 2/11/26.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o amcanion hirdymor y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.