Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Cynorthwydd Cynghori Gofal Plant Dechrau’n Deg

Dyddiad cau 14/09/2026

Cyflogwr

Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council

Lleoliad

  • Ynys Môn
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£18,805 - £19,720 per year y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Fel y’i cyhoeddwyd, mae Cynllun Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru’n nodi’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru’n ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n tyfu i fyny, yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. Un o’r saith blaenoriaeth gyffredinol yw bod plant “yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, gan gynnwys gwasanaethau blynyddoedd cynnar da a chymorth i rieni a gofalwyr. Dylent gael eu cefnogi gartref, mewn
gofal plant ac yn yr ysgol, ac wrth iddynt symud rhyngddynt.” Mae Cynllun y Cyngor ar gyfer Ynys Môn yn cefnogi’r nod hwn hefyd, ac mae’r swydd hon yn cyfrannu at yr amcan hwnnw.


Bydd deiliad y swydd yn rhan o’r tîm sy’n cyflenwi elfen ofal plant Llywodraeth Cymru o Dechrau’n Deg, ar gyfer plant 2-3 oed, sy’n cael ei rhoi ar waith yn raddol o Ebrill 2022, ac yn ddarpariaeth ran amser o ansawdd uchel gyda phwyslais ar ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.


Bydd y swydd hon yn ymwneud â rhoi cynlluniau gweithredu ar waith a ddatblygwyd gan Rheolwr Ymgynghorol Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar gyda darparwyr gofal plant Dechrau’n Deg. Mae’r cynlluniau gweithredu’n rhan o Ganllawiau Gofal Plant Dechrau’n Deg ynghyd â’r gwaith o alluogi darparwyr i gyflawni safonau Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru.


Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.