Oriau gwaith: 37 OriauMath o gontract: Amser Llawn/ Cyfnod Penodol Tan 31 ain Mawrth 2025
Lleoliad: Plas Hyfryd
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £26,421- £28,770 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Hoffech chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy'n agored i niwed?
Allwch chi gadw'ch pwyll mewn argyfwng?
Ydych chi'n gyfathrebwr da?
Yna, efallai mai chi yw'r unigolyn rydyn ni'n chwilio amdano i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Teleofal yng Nghaerffili.
Mae'r rôl yn gofyn llawer ac yn heriol, ond mae hefyd yn rhoi llawer o foddhad. Mae'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth go iawn i unigolion a'u teuluoedd nhw, gan alluogi defnyddwyr y gwasanaeth i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel, gan wybod bod cymorth yno pan fyddan nhw ei angen.
Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwyydd Gwasanaethau Teleofal. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Timau Gweithredu a Gosod Teleofal. Pan fydd y gwasanaeth yn brysur neu fod angen cyflenwi yn y swyddfa, bydd deiliad y swydd yn ateb galwadau brys. Mae hyn yn rhan fawr o'r rôl. Pan na fydd yn ateb galwadau, bydd deiliad y swydd yn gwneud gwaith gweinyddol i gynorthwyo'r gwasanaeth gosod a'r Rheolwr Teleofal.
Yn ogystal â sgiliau gweinyddol a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n hyderus wrth ddelio â chleientiaid agored i niwed, weithiau mewn amgylchiadau anodd. Hefyd, rhywun sydd â dull rhagweithiol o gynorthwyo anghenion ein cleientiaid.
Mae'r Gwasanaethau Teleofal yn darparu system larwm i ddefnyddwyr y gwasanaeth, sydd naill ai'n cynnwys larymau goddefol (er enghraifft, larymau mwg) neu larymau gweithredol (er enghraifft, larymau crog) sy'n rhoi galwad i'r Ganolfan Ymateb pan fyddan nhw'n cael eu seinio. Gall galwadau amrywio o ddefnyddwyr y gwasanaeth sy'n ceisio cyngor neu gysur, i alwadau sy'n gofyn i ni drefnu cymorth gan y gwasanaethau brys. Rydyn ni'n darparu'r gwasanaeth hwn yn uniongyrchol i'n defnyddwyr gwasanaeth ni ein hunain yn ogystal â darparu amrywiaeth o wasanaethau trin galwadau i sefydliadau eraill, sy'n sicrhau rôl amrywiol a heriol.
Mae'r Ganolfan Fonitro ar agor 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn.
Fel arfer, mae swydd y Cynorthwyydd Gwasanaethau Teleofal yn cwmpasu 'oriau swyddfa craidd' y gwasanaeth (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm) gyda rhywfaint o hyblygrwydd o amgylch amseroedd cychwyn a gorffen, fel y cytunodd deiliad y swydd a'r Rheolwr Teleofal er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Gan fod hwn yn wasanaeth rheng flaen, rydyn ni'n arbennig o awyddus i glywed gan bobl â sgiliau Cymraeg. Ond peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n gallu siarad Cymraeg, rydyn ni'n gallu eich cynorthwyo chi gyda hyfforddiant iaith Gymraeg os ydych chi'n teimlo ei fod yn rhydlyd neu os ydych chi'n ddechreuwr llwyr sy'n awyddus i ddysgu.
Mae'r swydd yn gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025. Efallai y bydd cyfle i symud i swydd Gweithredwr Teleofal wrth gefn ar ddiwedd y contract.
Bydd prawf gweinyddol sylfaenol a phrawf ffôn yn cael eu cynnal fel rhan o'r broses gyfweld.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft TGAU A*-C neu NVQ Lefel 2.
- Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr y gwasanaeth (yn gyffredinol, aelodau'r gymuned sy'n hŷn a/neu agored i niwed).
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a defnyddio cerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt i fynd i gyfarfodydd/ymweld â chleientiaid/sicrhau parhad busnes
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rhianne Heath / Liah Adams ar 01443 873663 / 01443 873656 neu ebost: heathr@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.