Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 153
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Gwasanaethau Preswyl
Nifer y swyddi gwag: lluosog
Math o gontract: Achlysurol
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd A
Cyflog: £23,150 yn Cynnwys Atodiad Cyflog Byw Go Iawn
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £12.00 yn Cynnwys Atodiad Cyflog Byw Go Iawn
Oriau Contract: Dim Awr
Dewch i ymuno â'n tîm Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin saith cartref gofal preswyl gyfer oedolion hŷn ledled y Sir. Cyfle cyffrous i unigolion brwdfrydig, ymroddedig a hyblyg ymuno â'n timau sefydledig. Mae croeso i Gynorthwywyr Domestig profiadol a'r rheiny sy'n newydd i'r maes wneud cais. Bydd yr unigolion yn gweithio fel rhan o dîm newydd sy'n darparu cymorth tymor byr.
Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):
- Dyletswyddau glanhau cyffredinol
- Symud a Thrin, gan ddefnyddio offer lle bo'r angen
- Cydymffurfio â deddfwriaeth a safonau Iechyd a Diogelwch a Rheoli Heintiau
Rydym yn ceisio recriwtio nifer o staff achlysurol i dalu am absenoldebau, i fod ar gael ar sail ad-hoc ac weithiau ar fyr rybudd.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â:
Jane Evans ar SJEvans@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: CasualDA.pdf - 219KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 31/10/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.