28 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o fod yn gynorthwyydd domestig/cegin i fod yn rhan o'n tîm ym Mryn y Cae, Bracla. Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys:
- Cynorthwyo’r cogydd â'i ddyletswyddau.
- Paratoi a choginio prydau bwyd yn absenoldeb y cogydd.
- Glanhau'r lleoliad gwaith, gweithredu offer trydanol, mecanyddol, golchi dillad a glanhau.
- Glanhau offer cegin a golchi llestri.
- Cymryd cyfrifoldeb am eich llesiant a bod yn ymwybodol o'r Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, a pholisïau a gweithdrefnau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a dilyn y rhain.
- Cwblhau gwaith papur priodol yn ôl yr angen.
- Mynychu cyfarfodydd tîm pan fo angen.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
- Gwerthoedd ac egwyddorion cadarn, sy'n canolbwyntio ar y person.
- Y gallu i fod yn barchus a gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau pobl.
- Sgiliau gwrando a chyfathrebu gweithredol
Os hoffech ein helpu i wneud gwahaniaeth dyma'r hyn y gallwn ei gynnig i chi:
- Cyflog cystadleuol
- Hawl i wyliau blynyddol hael
- Cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn llywodraeth leol rhagorol
- Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr gyda chyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer dilyniant gyrfa
- Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n cynnig mynediad am ddim i gyflogeion 24 awr y dydd/365 diwrnod y flwyddyn i gael cwnsela, cyngor ac arbenigwyr cymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion yn ogystal â chymorth iechyd a llesiant.
- Sawl cynllun gwobrwyo staff sy'n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau ar-lein neu yn y stryd fawr ledled y wlad ac yn lleol.
- Mynediad at y Cynllun Buddiannau Car sy'n cynnig car newydd sbon ar brydles, yswiriant, treth ffordd, teiars newydd, gwasanaeth MOT ac yswiriant cynnal a chadw a thorri i lawr am un taliad misol, yn ogystal â'r Cynllun Beicio i'r Gwaith.
- Gwersi Cymraeg am ddim.
Efallai y bydd gofyn i chi weithio ar benwythnosau, ac ar wyliau banc os bydd angen. Bydd y shifftiau'n cael eu trefnu gan reolwr y gwasanaeth a byddant yn newid er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 19 Awst 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 21 Awst 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 28 Awst 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person