Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod.
Math o gontract: Cyfnod penodol tan 31ain Rhagfyr 2024
Lleoliad: Cartref Preswyl Min-y-Mynydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau Preswyl i Bobl Hŷn ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £21,503.47 - £ 22,994.93 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi'n angerddol am weithio ym maes gofal ac ydych chi'n ddibynadwy ac yn frwdfrydig? Ydych chi'n ystyried eich hun yn aderyn y nos?
Mae Cartref Preswyl Min-y-Mynydd yn chwilio am Gynorthwyydd Gofal Nos i weithio 3 noson un wythnos a 4 noson yr wythnos wedyn ar batrwm gwaith treigl, dros unrhyw 7 diwrnod yr wythnos, i ddarparu gofal personol, a chymorth emosiynol ac ymarferol i bobl hŷn mewn amgylchedd sy'n darparu awyrgylch cartrefol gan sicrhau bod hawliau, annibyniaeth a lles pobl yn cael eu cefnogi a'u cynnal.
Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol. Rhaid bod gennych chi wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, e.e. urddas a dewis. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, meddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd, a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn meddu ar/yn gweithio tuag at Lefel 2 mewn gofal (NVQ 2, gynt), neu'n barod i gyflawni'r cymhwyster o fewn amserlen benodedig.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Gwybodaeth am yr egwyddor sy’n sail i ofal o safon, e.e. urddas, dewis, ac ati.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
- Yn gallu ac yn barod i weithio'n hyblyg gan gynnwys ar benwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau cysgu i mewn
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Wendy Jones ar 01685 840595 neu ebost: jonesw1@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl gweithwyr cartrefi gofal i oedolion gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.