Oriau gwaith: 28 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Rhan Amswer Amseroedd y shifftiau yn fras yw rhwng 7:00 a 14:30 a rhwng 14:30 a 22:00. Mae 4 x shifft dros 7 diwrnod
Lleoliad: Castle View Cartref Preswyl Caerffili
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau i Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £18,384.65 - £19,659.78 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi'n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl? Ydych chi'n sensitif, yn gefnogol ac yn anfarnol? Hoffech chi fod yn rhan o dîm sy’n hybu awyrgylch cartrefol, cynnes lle mae pobl yn cael eu parchu fel unigolion?
Mae cartref preswyl Castle View yn chwilio am 1 x Cynorthwyydd Gofal i ddarparu gofal a chymorth i oedolion hŷn ac oedolion hŷn â dementia. Bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau i gynorthwyo preswylwyr mewn modd urddasol a pharchus, gan hybu annibyniaeth a lles a mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol. Rhaid bod gennych chi wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, er enghraifft, urddas a dewis. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, meddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd, a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn meddu ar/yn gweithio tuag at Lefel 2 mewn Gofal (NVQ 2 gynt), neu'n barod i gyflawni'r cymhwyster o fewn amserlen benodedig.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Gofyniad i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen gytunedig.
- Yn dangos empathi, ac yn gwrtais, yn ymatebol ac yn sensitif i anghenion unigolion.
- Yn gallu ac yn barod i weithio'n hyblyg gan gynnwys ar benwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau cysgu i mewn.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
Os hoffech chi, ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Mandy Chattaway ar 02920 852552
chattm@caerphilly.gov.ukCroeso i chi gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy'n cael ei gyflwyno yn Saesneg.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol fel tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os cewch chi unrhyw anhawster wrth wneud cais ar-lein, cysylltwch â
GweRecriwtio@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal yn achos pob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2022 yn nodi’r gofyniad i bob gweithiwr gofal preswyl i blant, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru erbyn 30 Medi 2023.