Oriau gwaith: 18 oriau. Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod.
Math o gontract: Cyfnod penodol tan 30ain June 2024, Rhan Amser
Lleoliad: Cartref Preswyl Beatrice Webb
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Preswyl i Bobl Hŷn ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £11,818 - £12,638 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Allwch chi wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl? Ydych chi'n sensitif, yn gefnogol ac yn anfarnol? Hoffech chi fod yn rhan o dîm sy’n hybu awyrgylch cartrefol, cynnes lle mae pobl yn cael eu parchu fel unigolion?
Mae Cartref Preswyl Beatrice Webb yn chwilio am Gynorthwyydd Gofal i ddarparu gofal a chymorth i oedolion hŷn. Bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau i gynorthwyo preswylwyr mewn modd urddasol a pharchus, gan hybu annibyniaeth a lles, a mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol. Rhaid bod gennych chi wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, e.e. urddas a dewis. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, meddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd, a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Mae'r swydd am gyfnod penodol tan 30 Mehefin 2024 pan fydd yn cael ei hadolygu gyda'r potensial i ymestyn. Amseroedd bras sifftiau yw 8-2pm a 3-9pm dros wythnos 7 diwrnod.
Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn meddu ar/yn gweithio tuag at Lefel 2 mewn gofal (NVQ 2, gynt), neu'n barod i gyflawni'r cymhwyster o fewn amserlen benodedig.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Gwybodaeth am yr egwyddor sy’n sail i ofal o safon, e.e. urddas, dewis, ac ati.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
- Y gallu a'r parodrwydd i weithio'n hyblyg gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a chwsg mewn dyletswyddau.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Stacey Suggit ar 01495 225773 neu ebost: suggis@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.