Caerphilly County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Lleoliad
Caerphilly
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£18,384.65 - £19,659.78 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Gweithiwr Cartref Gofal i Oedolion
Disgrifiad o'r swydd
Rydyn ni'n recriwtio Cynorthwyydd Gofal yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Oriau gwaith: 28 Oriau Math o gontract: Parhaol/ Rhan Amswer Amseroedd y shifftiau yn fras yw rhwng 7:00 a 14:30 a rhwng 14:30 a 22:00. Mae 4 x shifft dros 7 diwrnod
Lleoliad: Castle View Cartref Preswyl Caerffili
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau i Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £18,384.65 - £19,659.78 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Ydych chi'n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl? Ydych chi'n sensitif, yn gefnogol ac yn anfarnol? Hoffech chi fod yn rhan o dîm sy’n hybu awyrgylch cartrefol, cynnes lle mae pobl yn cael eu parchu fel unigolion?
Mae cartref preswyl Castle View yn chwilio am 1 x Cynorthwyydd Gofal i ddarparu gofal a chymorth i oedolion hŷn ac oedolion hŷn â dementia. Bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau i gynorthwyo preswylwyr mewn modd urddasol a pharchus, gan hybu annibyniaeth a lles a mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol. Rhaid bod gennych chi wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, er enghraifft, urddas a dewis. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, meddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd, a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn meddu ar/yn gweithio tuag at Lefel 2 mewn Gofal (NVQ 2 gynt), neu'n barod i gyflawni'r cymhwyster o fewn amserlen benodedig.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
Gofyniad i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen gytunedig. Yn dangos empathi, ac yn gwrtais, yn ymatebol ac yn sensitif i anghenion unigolion. Yn gallu ac yn barod i weithio'n hyblyg gan gynnwys ar benwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau cysgu i mewn.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
Os hoffech chi, ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Mandy Chattaway ar 02920 852552 chattm@caerphilly.gov.uk
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr