Rydyn ni'n recriwtio Cynorthwy-ydd Cyflenwi Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 31 awr yr wythnos, 6 awr 12 munud o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Math o gontract: Tymor penodol tan 31 Mawrth 2027, Amser Tymor yn Unig gyda photensial ar gyfer ymestyn yn dibynnu ar gyllid parhaus (39 wythnos waith)
Lleoliad: Prif ganolfan ddynodedig ond yn gweithio mewn amrywiol leoliadau Dechrau'n Deg ar draws y fwrdeistref
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydym yn talu cyflog deniadol o Radd 4 (cymwysedig Lefel 2) £20,083 (SCP 9) / Gradd 5 (cymwysedig Lefel 3) £20,407.28 - £21,416.82 (SCP 10- SCP 13) ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa gofal plant? Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gofal Plant ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n tîm bywiog Gofal Plant Dechrau'n Deg. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a theuluoedd ar draws ein cymuned.
Beth fyddwch chi'n ei wneud: Cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal plant o ansawdd uchel yn unol â chanllawiau Dechrau'n Deg, safonau CIW, a rheoliadau gofal plant. Cefnogi'r lleoliad i gynnig amgylchedd diogel a meithrin i bob plentyn. Hyrwyddo arferion cynhwysol a chefnogi plant ag anghenion sy'n dod i'r amlwg neu anghenion ychwanegol. Adeiladu perthnasoedd cryf gyda rhieni/gofalwyr a gweithio ar y cyd â phartneriaid aml-asiantaeth. Cynorthwyo gyda monitro, gwerthuso ac adrodd i sicrhau llwyddiant parhaus ein darpariaeth Dechrau'n Deg.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
- Cyflawni cymhwyster lefel 3 CGC Gofal Plant Dysgu a Datblygu o fewn y flwyddyn gyntaf o gyflogaeth
- Tystysgrif Lefel 2 CACHE mewn cymhwyster Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant neu gymhwyster perthnasol tebyg
- Cyfathrebwr/wraig effeithiol, gallu adeiladau perthnasau gweithio cadarnhaol gyda phlant, rhieni, timau staff o asiantaethau amrywiol ac uwch rheolwyr
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Fiona Santos ar 07810438505 neu ebost: santof@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.