Cynorthwyydd Golchi Dillad
Cartref Preswyl Llys y Bryn
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Golchi Dillad dibynadwy ac ymroddedig i ymuno â'n Tîm Domestig yng Nghartref Preswyl Llys y Bryn. Mae'r swydd bwysig hon yn helpu i sicrhau bod dillad a golch y preswylwyr yn cael eu prosesu i safon uchel, gan gyfrannu at eu cysur, urddas a'u lles.
Prif Gyfrifoldebau
Bydd dyletswyddau'n cynnwys, ond ni fyddant yn gyfyngedig i:
- Prosesu golch y preswylwyr yn effeithlon ac i safon uchel
- Didoli, golchi, sychu, smwddio a dosbarthu dillad a llieiniau
- Symud a thrin llwythi yn ddiogel, gan ddefnyddio offer priodol pan fo angen
- Cynnal safonau uchel o lanweithdra a threfniadaeth yn yr ardal olchi dillad
- Cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch ac Atal a Rheoli Heintiau
Beth rydym yn ei gynnig
Fel cyflogai Cyngor Sir Caerfyrddin, byddwch yn elwa ar:
- Gwyliau blynyddol â thâl hael
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Oriau cytundebol gwarantedig
- Patrwm gwaith rheolaidd
- Gwisg swyddogol ac offer PPE yn cael eu darparu
- Rhaglen sefydlu a hyfforddiant gynhwysfawr â thâl
- Cyfleoedd rhagorol i ddatblygu gyrfa, gan gynnwys cymwysterau FfCCh (QCF)
Ymunwch â'n Tîm
Os ydych yn frwdfrydig ynghylch darparu gwasanaethau cefnogi o ansawdd uchel ac yn dymuno gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau ein preswylwyr, byddem yn falch o glywed gennych.
Gwnewch gais heddiw a dewch yn rhan o'n tîm gofalgar a chefnogol yng Nghartref Preswyl Llys y Bryn.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch a Jessica Owens 01554 758132 e-bost JJOwens@sirgar.gov.uk