Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Llawn Amser
Lleoliad: Swyddfa/Gweithio gartref/Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Adnoddau Cymunedol ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £29,269 - £32,076 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol yn recriwtio Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol newydd i gynorthwyo ein gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty sy'n tyfu. Mae angen i'r unigolyn fod â phrofiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaethau cymdeithasol i oedolion ac amgylchedd ysbyty er mwyn gallu bodloni gofynion y swydd hon.
Mae angen i ymgeiswyr allu gweithio mewn gwasanaeth cyflym iawn a gallu addasu eu trefn ddyddiol yn unol ag anghenion y tîm. Mae gwybodaeth ymarferol o egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ynghyd â dealltwriaeth o waith sy’n seiliedig ar gryfderau hefyd yn allweddol.
Mae disgwyl i'r Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol gynorthwyo eu cydweithwyr Gwaith Cymdeithasol ar adegau o alw a phwysau cynyddol. Mae tîm rheoli cefnogol yn ei le gyda diwylliant o ddysgu, datblygu a gwella parhaus ar gyfer yr unigolyn a'r gwasanaeth.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster/cymwysterau Lefel 2 ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, er enghraifft Lefelau O Gradd A*-C neu NVQ Lefel 2 mewn Gofal.
- Profiad o weithio mewn lleoliad Gwasanaethau Cymdeithasol/Iechyd.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi a mynychu cyfarfodydd mewn lleoliadau amrywiol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jo Milliken/Lisa Hutton ar 07920152573/ 07825 634167 neu ebost:
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.