37 awr yr wythnos
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol ymuno â'n Canolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar. Mae'r tîm wedi cael ei ailgyflunio a'i ddatblygu yn dilyn ailstrwythuro gwaith cymdeithasol yn ddiweddar. Rydym yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol, am 37 awr yn barhaol.
Byddwch yn rhan o'r Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar, rydym yn cefnogi ac yn darparu gwasanaethau i oedolion sydd wedi profi newid yn eu hamgylchiadau sydd wedi effeithio ar eu galluoedd arferol i fyw'n annibynnol.
Mae'r tîm yn darparu ymateb tymor byr, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, gan sicrhau potensial mwyaf posibl yr unigolyn a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar ddewis a rheolaeth.
Gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau, byddwch yn hwyluso'r gwaith o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a mynediad at wasanaethau cyffredinol. Byddwch yn sicrhau mynediad teg i ofal a chymorth galluogi tymor byr wedi'i deilwra i oedolion y mae anabledd a heneiddio yn effeithio arnynt. Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ‘Yr hyn sy'n bwysig’ i unigolion a gofalwyr, gan sicrhau potensial mwyaf posibl yr unigolyn a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar lais a rheolaeth.
Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys:
Meddu ar lwyth achosion dirprwyedig yn unol â'ch sgiliau a'ch profiad a bod yn gyfrifol am hyn; a rheoli a chydlynu unrhyw ofal a chymorth sy'n ofynnol o dan oruchwyliaeth ymarferydd goruchwylio cymwys.
Bydd gofyniad i gydweithio â gweithiwr cymdeithasol, neu staff proffesiynol eraill ar achosion penodol; gallai hyn gynnwys bod yn weithiwr a ddyrannwyd eilaidd.
Byddwch yn cynnal asesiadau cychwynnol, penodol o ran amser, cymesur o dan oruchwyliaeth ymarferydd cymwys, gan nodi anghenion cymwys, a threfnu gofal a chymorth, lle y bo'n briodol drwy atebion cyffredinol ac wedi'u comisiynu, gan adolygu cynlluniau gofal a chymorth, a chynlluniau cymorth i ofalwyr, yn ôl yr angen. Byddwch yn ymwybodol o asesiadau risg a'u goblygiadau yn eich gwaith achos.
Bydd yn ofynnol i chi weithio ar y cyd â phobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, eu teulu, gofalwyr, a chefnogwyr eraill fel y bo'n briodol, i sicrhau bod y canlyniadau a amlinellwyd yn eu cynlluniau gofal a chymorth unigol yn cael eu bodloni'n briodol, gan ganolbwyntio ar ‘yr hyn sy'n bwysig’ i'r unigolyn.
Bydd gofyniad i weithio mewn dull partneriaeth integredig ac amlddisgyblaethol, gan weithio gydag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill mewn ffordd gydgysylltiedig i fynd i'r afael ag anghenion unigolion, eu teuluoedd, a'u gofalwyr, a lle y bo'n briodol cefnogwyr ac asiantaethau eraill, gan gynnwys rhannu gwybodaeth briodol yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gan sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gadw lle y bo'n bosibl.
Byddwch yn cynorthwyo ac yn cydymffurfio â Fframweithiau Sicrhau Ansawdd a Rheoli
Perfformiad y Gyfarwyddiaeth yn ogystal â gweithio o fewn Polisïau a Gweithdrefnau'r Gyfarwyddiaeth a'r Cyngor.
Byddwch yn gwybod, yn deall, ac yn cadw at ofynion y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, fel sy'n ofynnol gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r Cod yn rhestr o ddatganiadau sy'n disgrifio'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy'n ofynnol gan y rhai a gyflogir yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Byddwch yn cadw cofnodion cyfoes ar y ffeiliau electronig, a dogfennau perthnasol fel sy'n ofynnol yn unol â chanllawiau Ymarfer Cofnodi Achosion y Gyfarwyddiaeth.
Byddwch yn paratoi ar gyfer goruchwyliaeth a chymryd rhan ynddi fel sy'n ofynnol gan bolisi goruchwylio'r Gyfarwyddiaeth. Yn ogystal â goruchwylio, byddwch yn paratoi arfarniadau blynyddol ac yn cymryd rhan ynddynt, gan nodi anghenion datblygu personol a hyfforddiant i gynnal gofynion cofrestru ynghyd â bod yn gyfrifol am eich perfformiad eich hun yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt.
Byddwch yn ymwybodol o ddyletswydd cydraddoldeb y cyngor ac yn ymrwymedig iddi wrth ddarparu gwasanaethau ymarfer a gofal a chadw at safonau'r Gymraeg, gan gymryd rhan yn y ‘cynnig rhagweithiol’.
Cadw at weithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig amgylchedd cefnogol, goruchwyliaeth reolaidd, arfarniadau, hyfforddiant, a chyfleoedd datblygu.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 23 Medi 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 24 Medi 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 05 & 06 Hydref
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person