Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol – Gwasanaeth Maethu
Cyflogwr
Cardiff Council/Cyngor Caerdydd
Lleoliad
-
Caerdydd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £Gradd 6 - £33,119 - £37,563 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Am Y Gwasanaeth
A oes diddordeb gennych mewn gyrfa Gwaith Cymdeithasol?
Mae dod yn Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerdydd.
Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa, gan gynnwys secondiadau wedi'u hariannu ar gyfer gwahanol gyrsiau gradd a hyfforddiant ôl-raddedig.
Mae Caerdydd yn cynnig cyfle i dyfu a datblygu drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa, er enghraifft rydym wedi ariannu Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol i fynd i'r brifysgol i gael eu cymhwyster Gwaith Cymdeithasol.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae’r timau’n gweithio yn ôl dull sy’n seiliedig ar gryfderau er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a’u teuluoedd.
Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain a’r ddinas gyntaf yn y DU i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF, sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau.
Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull ‘Ffocws ar y Teulu’, sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Am Y Swydd
Y buddion a gynigir
Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gwaith yn hyblyg
- Gweithio hybrid gan eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu gartref.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol i weithio o fewn Gwasanaeth Maethu Plant Caerdydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n tîm sefydledig a chefnogol a fydd, gyda chefnogaeth y Prif Weithiwr Cymdeithasol (PWC) a bydd yn cynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddyrannu llwyth achosion o ofalwyr maeth i ddarparu cymorth a goruchwyliaeth i ofalwyr maeth.
Efallai y bydd achlysuron pan fydd gofyn i chi fynychu digwyddiadau i gefnogi ymgyrchoedd recriwtio a hyrwyddo gofalwyr maeth.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd byddwch yn dod â’r profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc gyda chi i’r rôl, profiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol, sgiliau asesu a chynllunio ac agwedd hyblyg wrth i’r gwasanaeth ddatblygu.
Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer plant, gan gynnwys trosolwg o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Rheoliadau Maethu ac yn ddelfrydol rhywfaint o brofiad o ddull sy’n ystyriol o drawma.
Bydd gennych ddealltwriaeth o'r dasg faethu a'r gallu i adeiladu perthynas waith effeithiol gyda gofalwyr maeth, plant a'u teuluoedd. Bydd gennych y sgiliau i gefnogi a goruchwylio gofalwyr maeth, nodi anghenion hyfforddi a datblygu, cyfrannu at feithrin asesiadau ac adolygiadau, a chydnabod effaith trawma, colli ac ymlyniadau wedi’u hamharu ar ymddygiad a datblygiad plant. Byddwch hefyd yn hyderus mewn cydweithio â gweithwyr cymdeithasol plant a gweithwyr proffesiynol eraill i hyrwyddo sefydlogrwydd lleoliad a chanlyniadau cadarnhaol i blant.
Byddwch yn gallu asesu anghenion unigolion ar sail risg, trwy ddefnyddio systemau i gofnodi gwybodaeth a chynnig cynlluniau gofal. Byddwch yn gyfrifol am adolygu ansawdd gofal a sefydlu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar y person ac sy’n galluogi. Dylech fod yn barod i ddilyn hyfforddiant priodol i’ch cefnogi yn eich rôl a gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rolau sydd ar gael, anfonwch e-bost i RecriwtiwchFi@caerdydd.gov.uk
Gwybodaeth Ychwanegol
Gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swyddi uchod.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein