Oriau gwaith: 18 Oriau ( 6 awr y dydd, 9.30am-3.30pm dydd Llun, dydd Mawrth, a dydd Gwener)
Math o gontract: Rhan Amswer/ Cyfnod Penodol Tan 31/12/2024
Lleoliad: Nghanolfan Adnoddau Brooklands yn Rhisga
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y tîm cefnogol a gofalgar ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £11,818.70 - £12,638.43 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Prif ddiben y rôl yw cynorthwyo anghenion corfforol, emosiynol, diwylliannol a chymdeithasol unigolion gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i hyrwyddo dewis ac annibyniaeth, wrth wneud diwrnodau pobl yn bleserus ac yn ystyrlon.
Rhaid bod yn berson arbennig i ymgymryd â rôl Cynorthwyydd Gwasanaethau Dydd. Rhaid bod yn ofalgar, yn ddibynadwy, yn llawn cymhelliant ac yn gyfeillgar. Os ydych chi eisiau cynorthwyo trigolion yn y gymuned, helpu gwneud iddyn nhw deimlo'n hapus a bodlon, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau, bydden ni wrth ein bodd o glywed gennych chi!
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau neu'r ymrwymiad a'r gallu i ennill y cymhwyster o fewn blwyddyn i'r penodiad (yn amodol ar argaeledd hyfforddiant).
- Dealltwriaeth o faterion anabledd fel grymuso, dewis ac eiriolaeth.
- Y gallu i gynorthwyo gyda gofal personol a hylendid gan barchu preifatrwydd ac urddas unigolion.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sandra Firbes/Rhaynnon Duggan ar 07749 710987/07546 655159 neu ebost:
forbes@caerfilli.gov.uk duggar@caerfilli.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.