Rydyn ni'n recriwtio Cynorthwyydd Gwasanaethau Dydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 28.5
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Canolfannau Adnoddau Ystrad Mynach ac Oaklands (Rhymni)
Tîm: Gwasanaethau i Oedolion
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £21,331.86 - £22,387.14 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Rhaid bod yn berson arbennig i ymgymryd â rôl Cynorthwyydd Gwasanaethau Dydd.
Ydych chi'n ofalgar, yn ddibynadwy, yn llawn cymhelliant ac yn gyfeillgar?
Yna, gofynnwch i'ch hun:
- Ydw i eisiau gweithio gyda phobl a gwneud gwahaniaeth i'w bywydau drwy'r cymorth rydw i'n ei ddarparu?
- Ydw i'n gweld fy hun fel person cymdeithasol?
- Hoffwn i fod yn rhan o dîm sydd â'r nod o wneud i bobl deimlo'n hapus ac yn fodlon?
Os allwch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, yna mae gennych chi'r rhinweddau rydyn ni'n edrych amdanyn nhw i fod yn rhan o'n tîm.
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn ein tîm ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Dydd parhaol, rhan-amser i weithio gydag unigolion yng Nghanolfan Adnoddau Ystrad Mynach (dydd Llun a dydd Mercher) a Chanolfan Adnoddau Oaklands, Rhymni (dydd Mawrth a dydd Iau).
Rydyn ni'n chwilio am bobl sy'n gallu goleuo ystafell wrth fynd i mewn, sy'n dangos eu teimladau'n glir, sydd â sgiliau personol rhagorol ac sydd ag agwedd frwdfrydig a chadarnhaol tuag at bob agwedd ar weithio â phobl.
Rydyn ni'n anelu at ddarparu dull sy'n canolbwyntio ar y person ac sydd wedi'i deilwra wrth ddarparu cyfleoedd cymdeithasol, mae'r unigolion rydyn ni'n cynorthwyo wrth wraidd popeth a wnawn, rydyn ni am i staff sy'n cael eu cymell i rymuso pobl i gyflawni eu nodau a'u canlyniadau ac rydyn ni am i chi fod y rheswm pam bod unigolion yn mwynhau eu sesiynau gyda ni.
Byddwch chi'n dod yn rhan o dîm sy'n ymdrechu i ddarparu'r canlyniadau gorau ar gyfer unigolion.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau neu'r ymrwymiad a'r gallu i ennill y cymhwyster o fewn blwyddyn i'r penodiad.
- Dealltwriaeth o faterion anabledd fel grymuso, dewis ac eiriolaeth.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Andrew Williams ar 07808251573 neu ebost WILLIA36@CAERPHILLY.GOV.UK
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.