Cynorthwyydd Gwasanaethau Oriau Dydd
30 awr yr wythnos
Canolfan Oriau Dydd Dan-y-Mynydd, Coedlan Bronwydd, Porth, CF39 9AQ
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r garfan yn ein gwasanaeth oriau dydd newydd yn adeilad gofal ychwanegol newydd Dan-y-Mynydd, Porth. Mae'r gwasanaeth yn rhoi cyfleoedd yn ystod y dydd i bobl fyw bywydau egnïol ac annibynnol.
Mae Dan-y-Mynydd yn darparu cymorth i unigolion sy'n parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth i'r henoed sy'n fregus. Y nod yw galluogi pobl i fyw yn eu cartrefi cyhyd â phosibl trwy eu hysgogi, rhoi cymorth emosiynol a chyfleoedd iddyn nhw ryngweithio'n gymdeithasol.
Mae carfan o staff ymroddedig yn darparu ystod o weithgareddau sy'n seiliedig ar anghenion a dewisiadau'r unigolyn.
Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth o safon i unigolion sy'n defnyddio'r Ganolfan, gan sicrhau bod gwasanaethau'n canolbwyntio ar ddeilliannau. Bydd y staff yn helpu i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau er mwyn gwella annibyniaeth y rhai sy'n mynychu.
Byddai profiad o weithio mewn lleoliad gofal ffurfiol neu weithio'n gynhaliwr anffurfiol yn fantais er nad yw'n hanfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo unigolion sy'n mynychu'r ganolfan. Bydd disgwyl iddyn nhw gwblhau adolygiadau a chyflawni rôl gweithiwr allweddol.
Bydd gofyn i ymgeiswyr ennill cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn pen dwy flynedd gyntaf o gael eu cyflogi os nad ydyn nhw eisoes yn meddu ar y cymhwyster yma.
Bydd angen gwiriad Manwl (Oedolion) y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar yr ymgeisydd llwyddiannus, gan gynnwys gwirio'r Rhestrau Gwahardd bob 3 blynedd.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Stephen Gray, Rheolwr y Gwasanaethau Oriau Dydd, ar 07385 034141.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.