Dyma gyfle cyffrous i garfan o Gynorthwywyr Gwasanaethau Oriau Dydd achlysurol weithio yng Nghanolfan Oriau Dydd Trecynon, Aberdâr a Chanolfan Oriau Dydd Cwrt yr Orsaf, Pontypridd. Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio yn y maes gofal cymdeithasol, ac yn enwedig rhoi cymorth i bobl sy'n byw gyda dementia.
Mae ein carfanau'n ymdrechu i ddeall yr heriau penodol ac esblygol sy'n cael eu wynebu gan bobl hŷn sy’n byw gyda phroblemau iechyd cymhleth a/neu ddementia, gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar eu teimladau. Rhaid bod modd i'n carfan ni ddarparu cefnogaeth broffesiynol a thosturiol i'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth a'u hanwyliaid. Pam mae pobl yn mynychu'n Canolfannau Oriau Dydd? Mae'r rhesymau yn amrywiol ac weithiau'n gymhleth. O ganlyniad, mae’n hollbwysig ein bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ddangos empathi a pharch bob amser.
Mae gyda ni ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy'n hyblyg, ymroddedig, dibynadwy, arloesol ac sy'n gallu defnyddio eu menter eu hunain. O'ch penodi, byddwch chi'n dilyn rhaglen ymsefydlu ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol.
Oes gyda chi ddiddordeb yn y rôl yma? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Cysylltwch â Margaret Davidson (Rheolwr Gwasanaethau) drwy ffonio 07785 456837 neu e-bostio
[email protected] .
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus i wirio'u haddasrwydd i weithio gydag oedolion.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd (gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd), credau crefyddol, beichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.