21 awr yr wythnos
Mae'r Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn ceisio recriwtio gweinyddwr profiadol, cadarnhaol a rhagweithiol i ymuno â'n tîm mawr a chyfeillgar.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, byddwch yn unigolyn trefnus iawn sy'n ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth proffesiynol ac effeithlon. Byddwch yn hyddysg yn y defnydd o gymwysiadau Microsoft, ac yn barod i gael eich hyfforddi yn y defnydd o'r holl systemau a ddefnyddir yn y gwasanaeth.
Gan weithio o dan oruchwyliaeth y Cydlynydd Prosesau Busnes Blynyddoedd Cynnar, byddwch yn cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau clercol a gweinyddol i gynorthwyo'r gwaith o gyflawni'r rhaglen Blynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r rôl wedi'i lleoli yn y Ganolfan Blant Integredig yng Ngogledd Corneli, ac yn achlysurol bydd yn ofynnol llanw a mynychu cyfarfodydd mewn safleoedd eraill ar draws y fwrdeistref sirol. Mae trwydded yrru lawn a defnydd o gar yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Hannah Clee, Cydlynydd Prosesau Busnes yn Hannah.clee@bridgend.gov.uk i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych neu i drefnu sgwrs anffurfiol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 19 Awst 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 1 Medi 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 9 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person