Am Y Gwasanaeth
Mae Gwasanaethau Rhianta a Chwarae Caerdydd (sy'n cynnwys y tîm crèche a gofal plant) yn rhan o Gymorth Cynnar Caerdydd. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta ac ymyriadau ar sail grŵp ac yn unigol, a hynny ledled Caerdydd. Rydym yn gweithio mewn lleoliadau yn y gymuned, weithiau gyda theuluoedd yn eu cartrefi ac mewn lletyau fel hosteli.
Mae gennym swyddfeydd ar hyd a lled Caerdydd, ac mae gennym offer ar gyfer gweithio symudol hefyd.
Gallwch ddysgu mwy am elfennau Cymorth Cynnar trwy fynd i’r wefan www.teuluoeddcaerdydd.co.uk
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta a Chwarae drwy ein Padlet:
https://padlet.com/CardiffEarlyHelp/gwasanaeth-rhianta-a-chwarae-caerdydd-cardiff-parenting-play-4k53be7gkef6ad9a?fbclid=IwY2xjawRuyXpleHRuA2FlbQIxMABzcnRjBmFwcF9pZBAyMjIwMzkxNzg4MjAwODkyAAEe9LBwBLkyZlMR6OUxlmWJ1qWCHpJF8mmy9Ta_LxLTw0kxn3De8bx-HWU8dgw_aem_bCBbBOWrY63tiw17kQ9QBg
Rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth am beth rydym yn ei wneud ar ein tudalennau Instagram a Facebook – chwiliwch am Cardiff Parenting – Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.
Mae rhieni y mae eu plant wedi defnyddio'r crèche wedi dweud.
“Roedd yn brofiad cadarnhaol i fi a fy mhlentyn i allu ei gadael yn y crèche. Mae'r staff mor broffesiynol a chymwynasgar. Hoffwn i fynychu mwy o raglenni gyda crèche”; “Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr sut gwnaethon nhw setlo fe ond bydden nhw’n dod i fy nôl i pe bai wir fy angen.” a “Roedden nhw mor gyfeillgar ac yn gofalu am fy machgen yn dda. Merched anhygoel!”
Mae staff sy'n newydd i'r gwasanaeth wedi dweud “Dwi wrth fy modd yn gweithio yn y tîm crèche oherwydd bod pawb mor gyfeillgar a dwi wedi meithrin cyfeillgarwch anhygoel wrth wneud swydd dwi'n dwlu arni; Mae'n gwneud i mi deimlo'n fwy angerddol ac wedi fy nghymell i weithio ymhlith a gyda fy nhîm” a "Does dim diwrnod yr un peth ac mae'n wych cael tîm mor gefnogol a chyfeillgar."
Am Y Swydd
Fel rhan o estyniad ehangach y tîm, mae cyfle cyffrous wedi codi yn ein Tîm Crèche Rhianta a Chwarae Plant Caerdydd. Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwy-ydd Crèche i ymuno â'n tîm gofal plant a crèche sefydledig o fewn Cymorth Cynnar i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau yn y gymuned ledled Caerdydd. Mae'r rôl yn amrywiol a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cefnogi gyda chyflwyno darpariaeth crèche o safon i blant y mae eu rhieni yn mynychu Rhaglenni Rhianta. Pan fo gofyn byddwch hefyd yn cynorthwyo i ddarparu cyfleoedd gofal plant a chwarae o safon i blant 2-3 oed yn ein dau leoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg.
Bydd y cynorthwywyr crèche yn chwarae rhan allweddol yn ymuno â thîm profiadol o staff sy'n darparu profiadau chwarae diddorol llawn hwyl dan arweiniad plant yn bennaf i blant 0-4 oed, er y gallwn weithio gyda phlant hyd at 8 oed. Mae crèche yn cynnwys yn arbennig teuluoedd â phlant o dan 4 oed, byddant yn cyfrannu'n rhagweithiol at greu amgylcheddau croesawgar a chynhwysol sy'n sensitif i anghenion oedolion a phlant sy'n defnyddio ein gwasanaeth.
Yr oriau a delir yw 35 awr yr wythnos yn ystod tymor ysgol yn unig, croesewir ceisiadau rhannu swydd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Hanfodol: cymhwyster mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Lefel 2 neu uwch) - gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person am ragor o wybodaeth
Wrth wneud cais, cyfeiriwch at sut rydych chi'n bodloni meini prawf hanfodol y fanyleb person sydd ynghlwm yn ogystal ag adran gwybodaeth ychwanegol y cais.
Dylai deiliad y swydd fod â diddordeb gwirioneddol a chariad at weithio gyda phlant dan 8 oed a'u teuluoedd. Rydym yn aml yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sy'n profi her a thrawma, felly bydd angen i ddeiliad y swydd gael agwedd anfeirniadol, gan ddangos caredigrwydd, empathi a dealltwriaeth.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar wybodaeth gynhwysfawr am anghenion datblygiadol plant ac yn gallu cyflwyno gwybodaeth i rieni am ddatblygiad eu plentyn mewn modd sensitif, gyda chefnogaeth Arweinydd y crèche.
Mae’n rhaid cael trwydded yrru lân a cherbyd i’w ddefnyddio hefyd oherwydd bydd gofyn teithio ar hyd holl ardaloedd y ddinas fel rhan o’r rôl.
Yng Nghyngor Caerdydd rydym yn cymryd lles ein holl staff o ddifrif ac yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Dyma rai enghreifftiau o’r ffordd rydym yn ceisio cyflawni hyn, gyda chyfleoedd i chi fel gweithiwr:
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy.
- Sicrwydd mynediad at gyfleoedd Hyfforddi a Datblygu pellach rhagorol i roi cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa gyda ni.
- Mynediad at rwydweithiau cydraddoldeb cyflogeion ar gyfer cymorth, arweiniad a chymdeithasu (mae'r rhwydweithiau hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, y Rhwydwaith Gofalwyr, y Rhwydwaith Anabledd, y Rhwydwaith LHDT a’r Rhwydwaith Menywod).
- Mynediad at gymorth lles cynhwysfawr i gyflogeion.
- Mynediad at y Platfform Manteision i Gyflogeion MyAdvantages (sy'n cynnwys mynediad at Gynllun Beicio i'r Gwaith y Cyngor a gostyngiadau unigryw gyda manwerthwyr fel Asda, Tesco ac Ikea).
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac ieithoedd cymunedol eraill o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2028. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Mackay, y Cydlynydd Gofal Plant a Crèche ar 07817 955443
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.
Mae'r swyddi hyn yn destun gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn dderbyn ffurflenni cais trwy'r post chwaith.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar gael ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Canllaw ar Wneud Cais
Ymgeisio am swyddi gyda ni
Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Siarter Cyflogeion
Recriwtio Cyn-droseddwyr
Hysbysiad Preifatrwydd
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i gwblhau'r cais am y swydd Cynorthwyydd Crèche, gall ein Tîm Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith eich helpu. I gael rhagor o gymorth ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwch cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk
Mae'r rôl hon yn un rhan-amser am 35 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn. Mae'r cyflog a hysbysebir yn seiliedig ar rôl amser llawn (37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn). Bydd y cyflog gwirioneddol yn is na'r cyflog a hysbysebir oherwydd yr oriau a'r wythnosau rhan-amser a weithiwyd.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw’n eiddo i chi.
Atodiadau