37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2027
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy'n angerddol am sicrhau bod anghenion addysgol dysgwyr sy'n agored i niwed yn cael eu diwallu. Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o dîm sy'n hyrwyddo anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed wrth iddynt gael gafael ar addysg o safon dda sy'n diwallu eu hanghenion.
Bydd eich profiad ym maes addysg, gofal cymdeithasol neu'r sector gwirfoddol yn eich galluogi i weithio'n agos gydag amrywiaeth o staff ar draws addysg a gofal cymdeithasol i wella deilliannau i'r plant hynny mewn grwpiau agored i niwed a nodwyd.
Mae'r grŵp hwn o ddysgwyr yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhai sydd wedi dewis addysg ddewisol yn y cartref, plant sy'n cael eu cynorthwyo gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, plant y mae'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, Teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr, plant sy'n derbyn gofal, plant sy'n wynebu risg o gael eu heithrio neu blant yr ystyrir eu bod mewn perygl o niwed sylweddol.
Byddwch yn gweithio gyda Chydlynwyr y Tîm Ymgysylltu ag Addysg a swyddogion lles addysg i gynorthwyo teuluoedd sy'n dewis addysg ddewisol yn y cartref, yn mynychu cyfarfodydd a chynadleddau i rannu adborth ar ran addysg yn ogystal â chynorthwyo ymweliadau a digwyddiadau ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ac os ydych yn meddu ar y wybodaeth broffesiynol angenrheidiol wedi'i hategu gan brofiad, edrychwn ymlaen at glywed gennych. Yn gyfnewid, gallwn gynnig cyfle i chi wneud eich marc a gweithredu newid mewn amgylchedd cefnogol.
Gellir negodi amrywiaeth o delerau ac amodau hyblyg ar gyfer yr ymgeiswyr cywir.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch Megan Apsee (Rheolwr Tîm Interim) ar 01656 642407.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person