Cynorthwyydd Teithwyr
Cyflogwr
Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
-
Sir Gaerfyrddin
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Rhan Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £25,949 (Including Real Living Wage Supplement) y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Cynorthwyydd Teithwyr
Ydych chi'n angerddol dros ddarparu cymorth o ansawdd uchel a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau oedolion ag anableddau dysgu? Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Teithwyr i ymuno â'n tîm ymroddedig.
Yn y rôl hon a fydd yn rhoi boddhad mawr, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod unigolion yn cael eu cludo'n ddiogel, yn gyfforddus ac ag urddas, gan gefnogi eu hannibyniaeth a'u llesiant trwy gydol eu teithiau.
Yr hyn rydym yn ei gynnig
- Hyfforddiant cynhwysfawr a chyfleoedd parhaus ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Gwyliau blynyddol gyda thâl
- Mynediad at ein gwasanaethau cymorth i staff i wella eich twf personol a phroffesiynol
- Amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhwysol
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol, llawn cymhelliant a gofalgar sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth rhagorol. Dylai'r canlynol fod yn wir amdanoch:
- Eich bod yn barod i ddysgu ac addasu mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym
- Eich bod yn gallu meithrin a chynnal perthynas waith gref â chydweithwyr a phartneriaid allanol
- Bod gennych ddiddordeb mewn datblygu ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth, canllawiau ac arferion gorau perthnasol yn y maes
Os ydych chi'n barod i wneud cyfraniad ystyrlon a thyfu o fewn tîm cefnogol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Lucy Thomas
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein