2 x swydd 18.5 awr ar gael
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n Timau Rhwydwaith Clwstwr Integredig. Mae tîm y clwstwr yn gweithio ac yn cefnogi i ddatblygu tîm o amgylch y person a'i deulu neu'r rhai sy'n bwysig iddynt. Gall y bobl rydym yn eu cynorthwyo wynebu heriau cymhleth hirdymor o ran eu hiechyd corfforol, meddyliol a'u llesiant emosiynol. Mae'n gweithio gydag oedolion hŷn ac iau. Ein nod yw darparu cymorth cyfannol i'w galluogi i fyw eu bywydau fel y dymunant a sicrhau llais, dewis, annibyniaeth a rheolaeth yn eu bywydau.
Rydym yn ceisio recriwtio Cynorthwyydd Therapi creadigol, brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n Rhwydweithiau Clwstwr Integredig. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio ar draws Therapi Iaith a Lleferydd a Deieteg, wrth gael eich rheoli'n weithredol gan Therapydd Galwedigaethol o fewn tîm amlddisgyblaethol cefnogol a chydweithredol.
Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno ymyriadau Therapi Iaith a Lleferydd ac Ymyriadau Deieteg. Bydd hyn yn cynnwys mynychu cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol a chynnal tasgau dirprwyedig fel arsylwadau amser bwyd, gweithgareddau cyfathrebu a sgrinio am ddiffyg maeth. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi rhaglenni therapi, yn monitro cynnydd ac yn darparu cyngor ymarferol i unigolion, teuluoedd a gofalwyr i hyrwyddo bwyta ac yfed diogel a maeth digonol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cyflwyno hyfforddiant, cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau, a chwblhau tasgau gweinyddol cysylltiedig i gefnogi rhedeg y gwasanaeth yn effeithiol.
Mae'r timau'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys ardal, therapyddion galwedigaethol; ffisiotherapyddion; deieteg; Therapyddion Lleferydd ac Iaith; Technegwyr fferyllfa, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol a thechnegwyr amrywiol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygfeydd teulu ac asiantaethau trydydd sector i asesu a chynorthwyo anghenion oedolion y mae cyflyrau cymhleth ac andwyol hirdymor yn effeithio arnynt yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd.
Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu a phartneriaid eraill yn y clwstwr ac yn defnyddio'r Model Gofal Wrth Gefn i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a chartrefi gofal fel rhan o'n rôl i sicrhau'r annibyniaeth a'r dewis mwyaf posibl. Bydd datblygiad parhaus y model gwasanaeth dynamig hwn yn ei gwneud yn ofynnol gwneud gwaith i ehangu cyfleoedd partneriaeth gyda phartneriaid statudol; y trydydd sector a chydag unigolion o'r gymuned.
Rydym yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau cymunedol, grwpiau a gwasanaethau cydnerth ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y swydd naill ai yn ein swyddfa yn y Pîl neu yng Nglan-rhyd. Byddwn yn cynnig cyfleoedd datblygu â ffocws ac ymrwymedig i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Rydym yn annog sgwrs anffurfiol ar ymweliad cyn y cyfweliad. Cysylltwch â'r rheolwr gwasanaeth Chris Lloyd – e-bost Christopher.lloyd@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 642448.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 24 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 7 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 17 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person