GwasanaethTherapi Galwedigaethol Cyngor Sir Ceredigion. Mae hon yn rôl i ddychwelyd fel Y marferydd Therapi Galwedigaethol cymwysedig . Gweler isod am ragor o wybodaeth.
Rydym yn dîm sy'n frwd dros ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon. Yn dilyn adolygiad diweddar o'r gwasanaethau Therapi Galwedigaethol o fewn Cyngor Sir Ceredigion, mae strwythur gwasanaeth newydd wedi'i ddatblygu. Mae'r gwasanaethau cymunedol oedolion a phediatreg nawr yn gweithio o dan yr un strwythur rheoli o fewn Model Gydol Oes a Llesiant Ceredigion.
Mae'r rôl Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol hon o dan y tîm Oedolion cymunedol.
Rydym yn credu'n gryf mewn darparu gwasanaeth o ansawdd i bobl Ceredigion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r persbectif unigryw y mae ein proffesiwn yn ei gynnig i'r sefydliad ehangach. Credwn fod gan bawb yr hawl i gyrraedd eu potensial llawn ar bob cam yn eu bywyd. Fel tîm rydym yn falch o'n diwylliant cefnogol ac yn ceisio rhannu ein cryfderau, ein sgiliau proffesiynol, a'n gwybodaeth eang - yn ein gwasanaeth therapydd galwedigaethol uniongyrchol a chyda chydweithwyr y tîm amlddisgyblaethol.
Fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, gallwch ddisgwyl derbyn goruchwyliaeth a chymorth i ddatblygu'r sgiliau arbenigol sy'n angenrheidiol ar gyfer eich rôl.
Eich ffocws yn y tîm fydd: - asesu defnyddwyr gwasanaeth yn holistaidd, yn eu cartrefi eu hunain, gan eu cefnogi i nodi atebion a all gynnwys:
- addasiadau bach neu ganolig
- offer safonol sy'n hyrwyddo annibyniaeth
- cadw cofnodion clinigol amserol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich asesiadau ac ymyriadau
- rheoli agweddau dydd i ddydd ar lwyth achosion clinigol yn y gymuned.
- gwneud atgyfeiriadau manwl i dimau a gwasanaethau eraill. Er enghraifft:
- darpariaeth teleofal
- gwaith cymdeithasol , ffisiotherapi neu wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill
- adnabod a gweithio o fewn cwmpas a chyfrifoldeb eich rôl , gan geisio cymorth ac arweiniad yn ôl yr angen
Fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, dylech fod â dealltwriaeth sylfaenol o'r proffesiwn Therapydd Galwedigaethol. Mae profiad blaenorol o weithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Byddem yn eich annog i ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol isod cyn gwneud cais.
Fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, byddwch yn ymrwymedig i weithio yn unol â gweledigaeth Ceredigion i ganiatáu i bobl ddatblygu'r sgiliau a'r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau cyflawn a chyflawni eu nodau . Byddwch yn awyddus i ddysgu a rhannu eich profiad. Yn bennaf oll, dylech fod mor frwd â ni dros arloesi, gwaith tîm, a darparu gwasanaeth o ansawdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn gweithio fel tîm, rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad a photensial pob aelod o'r tîm.
Dychwelyd at Ymarfer Therapi Galwedigaethol cymwysedig: Rydym yn eich croesawu i wneud cais os ydych wedi cymhwyso fel Therapydd Galwedigaethol o'r blaen ac mae eich cofrestriad Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) wedi dod i ben. Dylech barhau i fodloni'r meini prawf gwaith hanfodol. Gallwn eich cefnogi i weithio tuag at ailgofrestru ac, yn y dyfodol, pan fydd swyddi gwag ar gael, i wneud cais am rolau Therapi Galwedigaethol arbenigol cymwysedig o fewn y tîm (yn amodol ar gyflawni cymwyseddau penodol). Mae hwn yn gyfle unigryw i symud ymlaen tuag at rôl arbenigol mewn Therapi Galwedigaethol.
Os ydych chi'n rhannu ein gwerthoedd, cysylltwch i drafod y cyfle cyffrous hwn, neu gwnewch gais nawr. Mae'r rôl hon yn elwa o:
- Gweithio hybrid (y potensial i weithio gartref ac yn y swyddfa, bydd angen teithio o fewn y sir ar gyfer asesiad wyneb yn wyneb hefyd).
- Amser hyblyg.
- Grant ariannol hael o bosib i gefnogi'r ymgeisydd cywir i adleoli i Geredigion.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonAm fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â: Steven Elliott, Rheolwr Tîm.
Steven.Eliott@ceredigion.gov.uk Adnoddau defnyddiol:
Proffil Gyrfa - Gwasanaethau Cymdeithasol Therapi Galwedigaethol - RCOT Sut i ddod yn Weithiwr Cefnogi Therapi Galwedigaethol - RCOT Trasolwg - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant... | Gofal Cymdeithasol Cymru Therapi Galwedigaethol, BSc (Anrh) - Prifysgol Abertawe Therapi Galwedigaethol - Prifysgol Wrecsam Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy