Rhif swydd POSN004053 - Cysylltydd Cymunedol
Ydych chi'n gweithio'n galed ac yn chwilio am gyfle cyffrous i weithio gyda thrigolion Casnewydd gan ddarparu gwasanaeth o ansawdd da? Mae Cysylltwyr Cymunedol yn Dîm sy'n cysylltu dinasyddion â gweithgareddau cymunedol a rhwydweithiau cymorth. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn recriwtio i swydd Cysylltydd Cymunedol llawn amser o fewn y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yn y Ganolfan Ddinesig. Swydd cyfnod penodol yw hon tan 31 Mawrth 2027. Mae'r Cyngor yn cynnig trefniadau gweithio’n hyblyg yn ystod dyddiau'r wythnos rhwng 9am a 5pm. Nid oes angen gweithio penwythnosau na nosweithiau.
Pwrpas y rôl yw darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl 16 oed a hŷn sy'n agored i niwed neu'n teimlo’n ynysig. Efallai y bydd yr unigolion hyn yn gofyn am ymgysylltu a chefnogaeth i’ helpu i fyw'n annibynnol a mynd i'r afael ag unigrwydd cymdeithasol. Mae’r tîm Cysylltwyr Cymunedol yn eistedd ochr yn ochr â thimau Cyswllt Cyntaf, Therapi Galwedigaethol a Gofal Cymdeithasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, partneriaid yn y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol. Byddwch yn gweithio ar sail 1:1 gydag unigolion, gan roi cyngor wyneb yn wyneb yn ogystal â dros y ffôn, trwy e-bost neu'r post. Mae gwaith ar ddyletswydd hefyd yn rhan o'r rôl hon.
Weithiau bydd angen i chi hefyd gynnal ymweliadau cartref a mynychu grwpiau cymunedol neu ddigwyddiadau cyhoeddus yn ardal Casnewydd. Mae'r tîm hefyd yn cefnogi gofalwyr di-dâl.
Rhoddir hyfforddiant llawn, ond bydd angen profiad o weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, lles, addysg neu leoliad datblygu cymunedol. Bydd gennych brofiad o roi gwybodaeth a chyngor ac ymgysylltu ag oedolion sy’n agored i niwed o bob oed. Byddwch wedi ymrwymo i'r agenda atal ac ymyrraeth gynnar ac yn meddu ar wybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014).
Mae llawer o fanteision i weithio yng Nghyngor Dinas Casnewydd, y gallwch eu gweld ar y wefan o dan 'Buddion ac Amodau'. Dolen: Buddion ac Amodau | Cyngor Dinas Casnewydd
Dyddiad cau: Dydd Llun 14/09/2026. Cyfweliadau i'w cynnal ar 30-09-2026
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd