Am Y Gwasanaeth
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at ddatblygu rheolaeth effeithiol o ran perfformiad Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd drwy wella a chynnal systemau gwybodaeth rheoli (ChildView Cyfiawnder Ieuenctid).
Am Y Swydd
Fel Dadansoddwr Data ar gyfer y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid byddwch mewn sefyllfa i sicrhau bod gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad gwasanaethau yn cael ei ddarparu i dîm rheoli'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, i reolwyr strategol a gweithredol ar bob lefel ac i sefydliadau sy’n rhanddeiliaid gyda'r nod o wella a chefnogi ansawdd ein gwasanaeth. Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol ar gyfer plant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu.
Bydd y prif gyfrifoldebau fel Dadansoddwr Data yn cynnwys:
- Darparu gwybodaeth ac adroddiadau yn ôl y gofyn gan Lywodraeth Cymru, Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Bwrdd Rheoli’r GCI, y tîm Rheoli a sefydliadau sy’n rhanddeiliaid.
- Ymateb i’r holl Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth perthnasol o fewn terfynau amser deddfwriaethol.
- Cynnig hyfforddiant a chyngor i staff o ran defnyddio'r system rheoli achosion ac ar faterion gwybodaeth/data fel eu bod yn codi.
- Cydgysylltu â darparwyr TG/systemau o ran unrhyw anawsterau sy'n effeithio ar adrodd ar ddata
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydyn ni’n chwilio am berson sydd â:
- Gwybodaeth ymarferol o ddefnyddio meddalwedd MS Windows neu debyg
- Profiad o ddadansoddi, gwerthuso ac ymateb i wybodaeth rheoli mewn cyd-destun gwasanaeth cwsmeriaid
- Profiad o ddefnyddio rhaglenni cronfeydd data a thaenlenni
- Byddai dealltwriaeth o’r system cyfiawnder troseddol o ran plant a phobl ifanc yn ogystal â dealltwriaeth uwch o'r fethodoleg Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (ASG) yn fantais amlwg.
Bydd angen i chi fod â gallu, sgiliau a gwybodaeth ynghylch:
- Teclynnau adrodd megis Power BI neu SQL.
- Y gallu i weithio gyda gwybodaeth gymhleth a chynhyrchu adroddiadau dadansoddi ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Y gallu i ddefnyddio Excel i lefel uchel
- Hanes amlwg o alluogi pobl eraill i gyflawni eu nodau
- Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli perfformiad a systemau busnes
Ac fe gewch chi:
Yn ogystal ag ymuno â thîm bywiog, cyfeillgar a chefnogol, byddwch yn cyfrannu tuag at wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw. Byddwch hefyd yn derbyn y pecyn buddion canlynol:
- Mae Caerdydd yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith sy’n dda, hyblygrwydd ac ymreolaeth i gefnogi eich cydbwysedd bywyd gwaith /teulu chi eich hun
- Cynnig i weithio’n hybrid
- Cefnogaeth i iechyd a lles gweithwyr
- Credyd o amser fflecsi / toil
- Hawl awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhagorol a diogel
- Hawl i wyliau blynyddol hael
- Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Gweithio gyda Rheolwyr Tîm a chydweithwyr sy'n rhagorol ac yn angerddol dros sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl ifanc
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau