37 awr yr wythnos
Yn ystod y tymor
Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2028
Croesewir cyfleoedd secondiad ar gyfer y swydd wag hon.
Mae cyfle datblygu cyffrous wedi codi i gydweithiwr profiadol ymgymryd â secondiad cyfnod penodol fel Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Gynhelir, gan ddarparu arweinyddiaeth gyffredinol i'n deg lleoliad blynyddoedd cynnar a gynhelir yn ystod cyfnod pwysig o ddatblygiad.
Mae ein gweithrediadau a gynhelir wedi cynyddu mewn maint yn ddiweddar ac, ochr yn ochr â'r twf hwn, mae'r dirwedd blynyddoedd cynnar ehangach yn parhau i ddatblygu. Rydym am sicrhau bod ein darpariaeth nid yn unig yn cael ei rheoli'n effeithiol o ddydd i ddydd, ond ein bod yn parhau i ddatblygu arweinyddiaeth gref, ymarfer o ansawdd uchel yn gyson a'r capasiti i ymateb yn gadarnhaol i gyfleoedd a newid yn y dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol o'r lleoliadau a gynhelir, gan weithio'n agos gyda'r Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, ein Harweinwyr Tîm Dechrau'n Deg, yr Arweinydd ADY a Diogelu a'r Cynghorydd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.
Ochr yn ochr ag arweinyddiaeth y gwasanaeth o ddydd i ddydd, un o'r prif ddibenion fydd arwain rhaglen ddiffiniedig o ddatblygu a gwella.
Y flwyddyn academaidd hon, rydym yn arbennig am wneud y canlynol:
- Cryfhau arweinyddiaeth ymhellach ar bob lefel, gan gynnwys datblygu rôl arweinyddiaeth Uwch Weithwyr Gofal Plant mewn lleoliadau unigol;
- Cefnogi'r gwaith parhaus o ddatblygu a gweithredu'r Fframwaith Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC);
- Cryfhau'r trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd, hunanwerthuso a gwelliant parhaus ar draws y deg lleoliad;
- Hyrwyddo mwy o gysondeb mewn ymarfer, disgwyliadau a ffyrdd o weithio wrth gydnabod cyd-destun unigol pob lleoliad;
- Datblygu ymhellach ddulliau o ran datblygu'r gweithlu, dysgu proffesiynol a chynllunio ar gyfer olyniaeth;
- Sicrhau bod ein trefniadau arweinyddiaeth yn gwneud y defnydd gorau o'r sgiliau a'r arbenigedd ar draws y gwasanaeth; a
- Helpu i baratoi'r ddarpariaeth a gynhelir ar gyfer cam nesaf ei datblygiad, gan sicrhau bod ganddi'r capasiti arweinyddiaeth, systemau a ffyrdd o weithio sydd eu hangen i ymateb i'r dirwedd addysg plentyndod cynnar a gofal plant sy'n datblygu.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu darparu arweinyddiaeth hyderus a chefnogol wrth weld y darlun ehangach hefyd: rhywun sy'n gallu meithrin perthnasoedd cryf, datblygu eraill, dylanwadu ar newid a throsi syniadau yn welliannau ymarferol a chynaliadwy.
Cyfle datblygu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i arwain gwasanaeth mawr, aml-safle ar gyfer y blynyddoedd cynnar, rheoli a datblygu uwch gydweithwyr, dylanwadu ar ddatblygiadau gwasanaeth a chwarae rôl bwysig wrth lunio cam nesaf ein darpariaeth blynyddoedd cynnar a gynhelir.
Os ydych yn teimlo eich bod yn meddu ar y sgiliau, y profiad a'r angerdd angenrheidiol i ffynnu yn yr hyn sy'n addo bod yn rôl amrywiol, gyffrous a phrysur, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 14 Hydref 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person