37awr yr wythnos
A ydych yn angerddol am wella bywydau plant a phobl ifanc? A ydych am weithio i gyflogwr sy'n rhoi pwys mawr ar oruchwylio o ansawdd uchel, llesiant a datblygu gyrfa?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym am i Weithwyr Cymdeithasol ymuno â ni i asesu a chynorthwyo'r plant a'r teuluoedd ar draws y fwrdeistref sirol.
Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau ailstrwythuro er mwyn darparu amrywiaeth hyd yn oed yn ehangach o lwybrau i blant â phrofiad o fod mewn gofal. O ganlyniad i'r ailstrwythuro, mae pedwar tîm rheoli achosion llai wedi'u creu a bydd dull seiliedig ar gryfderau yn sail i hyn o fewn amgylchedd cydweithredol a chefnogol.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio Dirprwy Reolwr Tîm a fydd wedi'i leoli yn ein Tîm Ardal y Dwyrain.
Mae ein Timau Ardal wedi'u lleoli mewn pedair canolfan gymunedol o amgylch y fwrdeistref sirol. Mae ein gwasanaethau cymorth wedi'u targedu i deuluoedd wedi'u cyd-leoli â'n timau ardal, i ddarparu continwwm o wasanaethau yn amrywio o gymorth cynnar i ddarpariaeth ddwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Yn ogystal, mae gennym dimau sy'n cynnig arbenigedd mewn perthynas â phlant ag anableddau a phobl ifanc 16 oed a throsodd y mae ganddynt hawl i wasanaethau gadael gofal.
Aeth ein canolfan MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth) yn fyw ym mis Ebrill 2018. Mae'r gwasanaeth hwn yn ymgorffori gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ochr yn ochr â diogelu ein plant a'n hoedolion mwyaf agored i niwed.
Yn 2023 lansiodd Gofal Cymdeithasol Plant y model gwaith cymdeithasol ‘Arwyddion Diogelwch’ sy'n sail i'n holl ymarfer yng Ngwasanaethau Plant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer yn unol ag egwyddorion y model.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol.
Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyflogwr i chi, gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil ac addysgol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Byddwch yn cael Taliad Atodol ar sail y Farchnad o £5,000 a bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 14 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 22 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person