Gofal Cartref
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
-
Wrecsam
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £26,414-£27,759 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gofal Maeth
- Rôl
- Swyddog Recriwtio Maethu
Disgrifiad o'r swydd
Ynglŷn â'r Rôl
Swyddog Recriwtio a Hyfforddiant Maethu – Contract Cyfnod Penodol o 12 Mis
Ydych chi'n drefnus, yn greadigol ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd?
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm maethu Cyngor Wrecsam – Maethu Cymru Wrecsam – ar gontract cyfnod penodol o 12 mis, gan gefnogi'r gwaith o recriwtio, hyfforddi ac ymgysylltu'n barhaus â gofalwyr maeth ledled Wrecsam.
Mae hon yn swydd amrywiol a gwerth chweil, lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath. O helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf tuag at ddod yn ofalwyr maeth i gydlynu hyfforddiant, trefnu digwyddiadau a chefnogi ein teuluoedd maeth presennol, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddarparu cartrefi diogel a chariadus i blant a phobl ifanc lleol.
Byddwch yn ymwneud ag ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau recriwtio ac ymgysylltu â'r gymuned, cydlynu ein rhaglen hyfforddi ar gyfer gofalwyr maeth, cynllunio gweithgareddau a digwyddiadau i deuluoedd maeth, a sicrhau bod ein gofalwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cadw mewn cysylltiad drwy gyfathrebu rheolaidd.
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynnal cofnodion recriwtio a hyfforddiant, monitro cyllidebau, paratoi adroddiadau perfformiad a gweithio'n agos gyda chydweithwyr a sefydliadau partner i gefnogi datblygiad parhaus ein gwasanaeth maethu.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Yn drefnus iawn, yn rhagweithiol ac yn hyderus wrth reoli llwyth gwaith amrywiol.
- Â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf.
- Yn hyderus wrth ddefnyddio Microsoft Office, yn enwedig Word, Lists, Excel a PowerPoint.
- Yn mwynhau cynllunio digwyddiadau, gweithio gyda phobl a meithrin perthnasoedd cadarnhaol.
- Yn gallu gweithio'n annibynnol, gweithio ar eu liwt eu hunain ac addasu i flaenoriaethau sy'n newid.
- Yn frwdfrydig dros gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd maeth.
Byddai profiad ym maes maethu neu Wasanaethau Plant yn fantais, ond mae gennym yr un diddordeb mewn ymgeiswyr sydd â sgiliau trosglwyddadwy, parodrwydd i ddysgu a brwdfrydedd gwirioneddol dros y rôl.
Os ydych chi'n chwilio am swydd sy'n cyfuno trefnu, creadigrwydd, ymgysylltu â'r gymuned a'r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
.Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â'r cymwysterau priodol, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, credoau crefyddol neu oedran.
Amdanom Ni
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
- Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
- Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
- Aelodaeth hamdden gostyngol
- Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
- Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
- Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
- Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
- Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
- Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
- Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
- Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
- Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
- Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
- Caffi Menopos ac arweiniad
- Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau
Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:
- Grymuso
- Ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Dyhead
- Cydweithredu
- Gwneud gwahaniaeth
- Tegwch
The County Borough of Wrexham, located in North East Wales, is proud of its Welsh heritage and cultural identity. Over the years it has grown to reflect a population that is multi-religious and multi-ethnic and complements the diversity of our communities.
Centred on the city of Wrexham, which nestles between the Welsh mountains and the Cheshire plains, it’s a location that really can offer you the best of both worlds and we are proud of our city status (awarded in 2022 when we became the seventh city in Wales).
Wrexham County Borough Council is a unitary Council which delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.
The council is an inclusive employer with a workforce of around 5,500, offering diverse roles, training and development and rewarding career opportunities. Wrexham County Borough Council values innovation, bilingualism in English and Welsh, and welcomes applicants from all backgrounds.
As a Disability Confident Committed Employer, the council ensures accessible recruitment and support for disabled employees including offering a guaranteed interview (where essential person specification items are met). Additionally, veterans will receive guaranteed interviews under the Armed Forces Covenant if eligibility criteria are met (where essential person specification items are met).
Employee benefits include:
- Membership in the Local Government Pension Scheme
- Flexible working arrangements
- Generous annual leave up to 32 days
- Family-friendly policies supporting caring and family commitments
- Work-life balance and flexi time (dependent on role)
- Discounted leisure membership
- Access to Wrexham Reward Scheme with discounts off leading retailers nationally and locally
- Health & well-being resources, for example:
- Healthy & Wellbeing Champions
- Employee assistance programme with advice on staying healthy financially, mentally or physically:
- Counselling (available 24/7, 365 days a year)
- In-the-moment emotional support (available 24/7, 365 days a year)
- Option to set health-boosting goals with small, sustainable lifestyle changes
- Connect health apps to track physical health and meet progress goals
- Blogs, videos, recipes and more resources providing inspiration and motivation
- Identify risks of developing leading lifestyle-related diseases with mental health and financial scores
- Legal, financial and consumer advice
- Health and wellbeing events and campaigns throughout the year (e.g., November Health Day, Time to Talk Day, Mental Health Awareness Week, Sun Awareness Week, Menopause Week, Financial Health Week)
- Menopause Café and guidance
- Unpaid Carer Café and guidance
Our Council Plan (2023–28) sets out our priorities for this period and we deliver these by following the Nolan Values of public life (selflessness, integrity, objectivity, accountability, openness, honesty and leadership) as well as our own Corporate Values:
- Empowerment
- Trust and honesty
- Aspiration
- Collaboration
- Making a difference
- Fairness
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein