Gofal Cartref
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
-
Wrecsam
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £26,403 - £27,254 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ynglŷn â'r Rôl
£13.69 - £14.13 yr awr
Oherwydd y galw cynyddol ar ein gwasanaethau, mae gennym gyfleoedd cyffrous i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl rydyn ni'n eu cefnogi yn Wrecsam.
Rydym bellach yn recriwtio ar gyfer rolau Gweithwyr Cymorth ar draws Gofal Cartref Hirdymor, Gofal Ychwanegol ac Ailalluogi. Mae pob gwasanaeth yn cefnogi unigolion i aros yn eu cartrefi eu hunain trwy ddarparu cymorth i oedolion sydd angen help gyda gweithgareddau bywyd pob dydd fel gofal personol, meddyginiaeth, lles corfforol ac emosiynol, cynnal maeth neu baratoi prydau bwyd.
O fewn y rôl hon byddwch yn cefnogi pobl ag amrywiaeth o anghenion, gan gynnwys anableddau corfforol a dementia, i aros mor annibynnol â phosib, wrth eu cefnogi i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed, a'u dewisiadau yn llywio'r cymorth y maent yn ei dderbyn.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr deinamig, hunangymhellol, y mae ganddynt dosturi, empathi a pharch. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau mewn pobl eraill ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn gweithio'n dda mewn tîm ac ar ei fenter ei hun; ac yn gallu dilyn cynlluniau personol a chwalu rhwystrau i sicrhau bod canlyniadau'n cael eu cyflawni. Bydd yn hyblyg ei agwedd ac yn ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Rhaid i ymgeisydd llwyddiannus fod â'r gallu i deithio ar draws bwrdeistref Wrecsam, a bydd yn gweithio fel rhan o'r tîm yng nghymuned Wrecsam neu ar y safle yn y Cynlluniau Gofal Ychwanegol. Byddwch yn derbyn cefnogaeth gan arweinydd tîm dynodedig a fydd yn darparu goruchwyliaeth a chyfleoedd hyfforddi i'ch cefnogi yn eich rôl h.y. codi a chario, a hyfforddiant mewn meddyginiaeth.
Rydym yn cynnig ystod o oriau dan gontract, a'r cyfle ar gyfer gwaith penwythnos yn unig, i gefnogi eich cydbwysedd bywyd gwaith. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos; mae’r cyflogeion yn aml yn gweithio am gyfnodau o 6 awr, boreau, gyda'r nos a phenwythnosau h.y. rhwng 7am a 1pm, 8am a 2pm a 4pm a 10pm. Mae rhai rolau hefyd ar gyfer gwaith nos h.y. 9pm i 7.30am. Mae'r oriau hyn yn gallu newid yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.
Os ydych chi am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymuned Wrecsam - Gwnewch gais Nawr!
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r Rheolwyr Cofrestredig:
Delyth Pridding ar 07557 498827,
Risha Newport ar 01978 298463 neu 07899 835254, neu
Jane Rowland ar 07800 688765
Yn anffodus, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gefnogi unrhyw ymgeiswyr sydd angen nawdd fisa gan nad ydym ar hyn o bryd yn dal trwydded nawdd.
Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, ni waeth beth fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Amdanom Ni
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
- Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
- Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
- Aelodaeth hamdden gostyngol
- Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
- Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
- Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
- Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
- Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
- Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
- Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
- Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
- Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
- Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
- Caffi Menopos ac arweiniad
- Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau
Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:
- Grymuso
- Ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Dyhead
- Cydweithredu
- Gwneud gwahaniaeth
- Tegwch
The County Borough of Wrexham, located in North East Wales, is proud of its Welsh heritage and cultural identity. Over the years it has grown to reflect a population that is multi-religious and multi-ethnic and complements the diversity of our communities.
Centred on the city of Wrexham, which nestles between the Welsh mountains and the Cheshire plains, it’s a location that really can offer you the best of both worlds and we are proud of our city status (awarded in 2022 when we became the seventh city in Wales).
Wrexham County Borough Council is a unitary Council which delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.
The council is an inclusive employer with a workforce of around 5,500, offering diverse roles, training and development and rewarding career opportunities. Wrexham County Borough Council values innovation, bilingualism in English and Welsh, and welcomes applicants from all backgrounds.
As a Disability Confident Committed Employer, the council ensures accessible recruitment and support for disabled employees including offering a guaranteed interview (where essential person specification items are met). Additionally, veterans will receive guaranteed interviews under the Armed Forces Covenant if eligibility criteria are met (where essential person specification items are met).
Employee benefits include:
- Membership in the Local Government Pension Scheme
- Flexible working arrangements
- Generous annual leave up to 32 days
- Family-friendly policies supporting caring and family commitments
- Work-life balance and flexi time (dependent on role)
- Discounted leisure membership
- Access to Wrexham Reward Scheme with discounts off leading retailers nationally and locally
- Health & well-being resources, for example:
- Healthy & Wellbeing Champions
- Employee assistance programme with advice on staying healthy financially, mentally or physically:
- Counselling (available 24/7, 365 days a year)
- In-the-moment emotional support (available 24/7, 365 days a year)
- Option to set health-boosting goals with small, sustainable lifestyle changes
- Connect health apps to track physical health and meet progress goals
- Blogs, videos, recipes and more resources providing inspiration and motivation
- Identify risks of developing leading lifestyle-related diseases with mental health and financial scores
- Legal, financial and consumer advice
- Health and wellbeing events and campaigns throughout the year (e.g., November Health Day, Time to Talk Day, Mental Health Awareness Week, Sun Awareness Week, Menopause Week, Financial Health Week)
- Menopause Café and guidance
- Unpaid Carer Café and guidance
Our Council Plan (2023–28) sets out our priorities for this period and we deliver these by following the Nolan Values of public life (selflessness, integrity, objectivity, accountability, openness, honesty and leadership) as well as our own Corporate Values:
- Empowerment
- Trust and honesty
- Aspiration
- Collaboration
- Making a difference
- Fairness
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein