Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r porthol swyddi ar hyn o bryd, felly efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o darfu dros dro. Nid yw hyn yn effeithio ar gyhoeddi swyddi gwag â llaw, felly parhewch i rannu eich rolau gyda ni.

Gofal Cartref – Gogledd Gorllewin Sir Gaerfyrddin

Dyddiad cau 28/06/2026

Cyflogwr

Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin

Manylion

Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£28,515 - £31,903 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Gofal Cartref – Gogledd Gorllewin Sir Gaerfyrddin

Gradd E - £28,515 - £31,903 - £14.78 - £16.53 yr awr (gan gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar y penwythnos) 

"Does dim angen profiad i fod yn garedig - dim ond calon. Ymunwch â ni i wneud pob dydd yn well."

Mae hwn yn gyfle i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol, lle bydd eich cymorth yn galluogi pobl ag anghenion gofal (pobl oedrannus yn bennaf, ond nid nhw yn unig) i fyw yn eu cartrefi eu hunain pan fydd yn rhy anodd iddynt ymdopi ar eu pennau eu hunain.

Dim profiad? Dim problem!

Os ydych chi’n garedig gyda natur dawel ac yn cyfathrebu'n dda ag eraill, yn meddu ar agwedd gadarnhaol at waith, ac am wneud pethau'n well i bobl sydd angen gofal, gallwn gynnig yr holl hyfforddiant a chymorth i chi gyflawni'r rôl.

Mae bod yn Ofalwr Cartref yn swydd werth chweil lle byddwch chi'n ennill sgiliau a phrofiad amhrisiadwy. Rydym hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Felly p’un a ydych am yrfa hirdymor fel Gofalwr Cartref, am ennill profiad gwerthfawr a sgiliau pwysig cyn dechrau ar yrfa wahanol neu addysg uwch, yna rydym am glywed gennych.

Byddwn yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth helaeth i chi ennill y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i fod yn ofalwr gwych. Mae'n waith caled ond yn werth chweil a byddwch chi'n rhan o sefydliad mawr gyda chyfleoedd i symud ymlaen. Byddwch yn cael eich croesawu i Dîm Gofal Cartref Cyngor Sir Caerfyrddin lle mae pawb yn falch o fod yn rhan o'r tîm sy’n cefnogi rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed mewn cymunedau lleol. I ddarllen yr hyn y mae eraill wedi’i ddweud amdanom dilynwch y ddolen i’r adroddiad arolygu diweddaraf arolygiaethgofal.cymru.

Fel Gofalwr Cartref, bydd eich dyletswyddau'n cynnwys darparu gofal personol (e.e. helpu pobl i gael bath, golchi, gwisgo, defnyddio'r toiled), paratoi prydau bwyd, rhoi meddyginiaeth, a hefyd helpu defnyddwyr y gwasanaeth i adsefydlu er mwyn adennill eu hannibyniaeth.

Mae'n ofynnol i weithwyr Gofal Cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch i ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig. Cofrestru | Gofal Cymdeithasol Cymru.  

Mae ein graddau cyflog yn hynod gystadleuol gyda swyddi tebyg ar draws y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  

Mae’r gyfradd fesul awr ar gyfer oriau cytundebol gwarantedig ymhlith y rhai sy’n talu orau yng Nghymru ac rydym hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o fuddion eraill, megis tâl am deithio rhwng galwadau a 45c y filltir am gostau car personol, defnydd o geir adrannol, mynediad at gynlluniau buddion, cynllun pensiwn o safon uchel, hawl gwyliau â thâl hael, lwfansau mamolaeth a thadolaeth a llawer mwy.

Darperir gwisg, bagiau, cyfarpar diogelu personol a ffonau symudol i'n holl ofalwyr cartref i weld eu rotâu a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth a'r cyngor sir ehangach, gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau i staff.

 

Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

  • Beverley Jones – 07989 139850
    • Eleri Gealy – 01267 242474 / 07825 388225

 


Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.