Rydym yn chwilio am rywun â sgiliau arweinyddiaeth cryf, profiad o weithio gyda unigolion agored i niwed, a'r gallu i yrru gwelliant parhaus. Os ydych yn gallu cyfathrebu'n effeithiol, rheoli gofynion gweithredol cymhleth, ac wedi ymrwymo i rymuso unigolion i gyflawni eu nodau - gallai hon fod yn gam perffaith i chi.
Ymunwch â ni a chynorthwywch i lunio gwasanaethau ystyrlon, cynhwysol sy'n hyrwyddo annibyniaeth, llesiant a chyfleoedd.
Ein Cynnig i Chi Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu:
- Cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o brif feysydd cyfrifoldeb y rôl hon.
- Cyfleoedd ar gyfer datblygiad parhaus er mwyn i chi allu symud ymlaen yn eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau ac ymrwymiad, rydym yn cynnig ystod o fuddion:
- Trefniadau gweithio hyblyg.
- Lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol.
- Cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%.
- Buddion teulu gwell.
- Cynilion ar ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles gweithwyr.
Cydbwysedd Gwaith-Bywyd Er mwyn eich cefnogi i gyflawni cydbwysedd gwaith-bywyd iach, bydd gennych fynediad at:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar rai amodau, gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa.
- Amser Hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn band eang diffiniedig, Llun i Gwener, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion Am fwy o fanylion cysylltwch a:
Amanda.Smith@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwchna fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy