*** Mae'r swydd wag hon ond ar gael i weithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan gynnwys staff asiantaeth sy'n gweithio yn y Cyngor ar hyn o bryd. ***
Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Achos yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Llawn Amser, Parhaol
Lleoliad: Tŷ Tredomen
Tîm: Tîm Plant ag Anableddau
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £32,578 - £35,570 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Fel Gweithiwr Achos yn ein Tîm Plant ag Anableddau, bydd gennych chi gyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon i blant a'u teuluoedd.
Byddwch chi’n meithrin perthnasoedd cadarnhaol, cynnal adolygiadau a darparu gwasanaeth rheoli gofal ystyriol sy'n hyrwyddo annibyniaeth, urddas a chyflawni canlyniadau personol. Gan weithio ar y cyd â theuluoedd, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol partner, byddwch chi’n helpu sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth yn parhau i fod yn effeithiol, yn ymatebol ac yn gyfredol o fewn amserlenni statudol. Gyda goruchwyliaeth a chymorth, byddwch chi’n rheoli eich ymarfer eich hun a hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth oruchwylio amser teuluol rhwng plant a'u rhieni.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
- Diploma Lefel 3 ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion neu Blant) neu gymwyster Lefel 3 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft, NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu wedi ymrwymo i gyflawni Diploma Lefel 3 ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn 2 flynedd.
- Y gallu i gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau, a rheoliadau statudol.
- Profiad o weithio gydag oedolion neu blant sydd ag anableddau corfforol a/neu anableddau dysgu.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd ac ymweld â chleientiaid.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Catherine Edwards ar 01495 235622 neu ebost: edwarmc@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
YMGEISWYR MEWNOL YN UNIG